Pwy sy'n cofio Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004?

Cae Sioe Môn oedd cartref Eisteddfod yr Urdd 'nôl yn 2004
- Cyhoeddwyd
Gydag wythnos Eisteddfod yr Urdd ar ei hanterth ar Ynys Môn, pwy sy'n cofio'r tro diwethaf i'r ŵyl ymweld â'r ynys?
2004 oedd y flwyddyn honno, dros 20 mlynedd yn ôl erbyn hyn.
Dyma atgofion pedwar unigolyn sy'n cofio'r Eisteddfod honno'n dda.
'Mi gymrodd o oria'!'
Alwen Jones o Amlwch oedd ysgrifennydd y pwyllgor gwaith ar gyfer yr Eisteddfod yn 2004.
A dyma sy'n aros yn y cof iddi hi.
"Un o fy swyddi, a be' dwi'n cofio fwyaf, oedd tywys llywyddion y dydd o amgylch. Oedd 'na Lywydd y Dydd, gwahanol rai bob dydd.
"Dwi'n cofio tywys Gwyn Hughes Jones. Roedd o wedi cynnal cyngerdd ar y nos Sul ac mi oeddwn i'n ei dywys ar y dydd Llun, a dau gam, ac roedd 'na rywun yn ein stopio ni!
"Mi gymrodd o oria', pobl yn ei longyfarch o.
"Un arall dwi'n cofio cymryd o gwmpas oedd Iwan Llywelyn Jones o Amlwch ac wrth gwrs roeddwn i'n 'nabod o hefyd.
"Be' dwi'n gofio 'efo fo - mynd i babell a phrynu crys-t a gofyn i mi ddewis pa grys-t iddo fo wisgo..."
Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Alwen ei bod hi'n "cofio gweld Iwan ar ryw raglen deledu wrth ymyl ei biano mawr yn ei gartref yn Llundain a'r crys-t 'ma amdano fo, a fi ddudodd wrtho fo am brynu hwnna!"

Alwen Jones yn tywys llywyddion dydd yr ŵyl n'ôl yn 2004
Dywedodd ei bod hefyd yn cofio gweld y prif weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth yn un o'r "arweinyddion ifanc newydd yn cyflwyno un o'r prif dlysau ar y llwyfan".
"Be' dwi'n cofio fwya' dim oedd y beirniadu celf a chrefft, oedd o bron â'n lladd ni!
"Beirniadu'n genedlaethol, oedd y cyntaf, ail a'r trydydd yn mynd trwyddo bryd hynny... ac oedden nhw'n beirniadu yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch... ma' 'na lot o risiau yna!
"Ac oedd cario'r modelau ma', y lluniau 'ma, a gofalu nad oedden nhw'n cael unrhyw niwed, oedd o'n lladdfa! Dwi'n cofio'r darn yna 'de."

Y pafiliwn ar y flwyddyn honno
Un arall a fu'n brysur yn ystod wythnos yr Eisteddfod oedd Geraint Thomas o Amlwch, oedd yn brif stiward.
Dyma oedd ganddo i'w ddweud wrth edrych yn ôl ar ei rôl yn ystod y cyfnod hwnnw:
"Roedd rhaid gofalu bod 'na wirfoddolwyr ar gael i wneud y tasgau oedd angen eu gwneud, bo' nhw yn y lle iawn ar yr amser iawn ac yn gwneud y gwaith i orau eu gallu.
"Oedd y diwrnod yn hir! A dwi'n cofio mai'r traed oedd yn dioddef fwyaf!"
Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
"Dwi'n cofio bod nifer wedi cynnig eu hunain ymhell cyn llaw, felly roedd rhywun wedi gallu gwneud amserlen o flaen llaw," meddai Geraint.
Dywedodd fod y "bwrlwm wrth gwrs yn debyg iawn i be' mae o wedi bod tro hyn, casglu arian, gweithgareddau gwahanol a mwy o gystadlu oherwydd ei bod hi ar Ynys Môn.
"Ma' rhywun yn cofio deugain mlynedd o eisteddfodau'r Urdd erbyn hyn, a 'da ni wedi cael bod yn rhan o'r pedair ddiweddaraf ar Ynys Môn - gan gynnwys yr un bresennol."

Ar ôl ennill cadair yr Urdd ym Môn, aeth Hywel Griffiths ymlaen i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015
Hywel Griffiths enillodd y gadair y flwyddyn honno ac yntau'n fyfyriwr 21 oed ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y pryd.
Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod, dywedodd ei bod hi'n "anodd credu bod hyn dros 20 mlynedd yn ôl!"
Dywedodd ei fod yn cofio'r "nerfusrwydd wrth aros am y seremoni ac eisiau sicrhau mod i'n cyrraedd fy sedd yn brydlon".
"Mae'r cof gen i am gael galwad i fynd i weld Llinos yn hen Swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth i gael y newyddion tipyn cyn wythnos yr Eisteddfod, yn fyw iawn yn y cof!
"Gwefr wedyn o glywed y feirniadaeth gan Cen Williams ac Einir Jones ac o weld gwaith mewn print yng nghyfrol y cyfansoddiadau."
Ychwanegodd: "wrth edrych yn ôl rwy'n sylweddoli ei bod yn bwysig ofnadwy o ran magu hyder a chael anogaeth i ddal ati i gynganeddu a barddoni mewn ffordd, a gwybod bod pobl wedi mwynhau darllen rhywbeth yr o'n i wedi ei ysgrifennu.
"Mae'r anogaeth hwnnw i ysgrifenwyr ifanc yn un o bethau pwysicaf cystadlaethau'r Urdd wrth gwrs.
"Rwy'n cofio un o fy ffrindiau coleg yn prynu clustog Mr Urdd imi fel anrheg!"

Derek Evans oedd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 2004 a dyma beth mae'n cofio am yr wythnos honno.
"Roedd o'n gyfnod prysur, yn gyfnod cyffrous iawn iawn, roedd o'n gyfnod bendigedig a dweud y gwir.
"O'n i'n digwydd bod yn gadeirydd y pwyllgor gwaith sir yr Urdd a dwi'n dal i fod yn gadeirydd pwyllgor sir yr Urdd, ma' hynna wedi bod yn amser maith.
"Mae'r mudiad yn golygu gymaint i mi, mae'r mudiad a Sir Fôn yn golygu gymaint i mi.
"Dwy 'Steddfod dwi 'di gweld ar Ynys Môn ers pan i mi ddechrau dysgu yn ôl yn 1978... mae just yn bleser cael gweld nhw.
"'Oedd fy merch i yn sioe ieuenctid yn ôl yn 2004 ac mae hi bellach newydd gael ei phen-blwydd yn ddeg ar hugain, mae o'n amser pell i ffwrdd yn dydi."
Ychwanegodd fod y sioe uwchradd yn "binacl" iddo a bod "nifer o'r aelodau o'r sioe honno bellach ar ein pwyllgor ni".
"Ma' Manon Wyn Williams, sy'n gadeirydd y pwyllgor gwaith yn y sioe yna ac yn y sioe uwchradd bellach, yn famau ac yn dadau ar yr ynys 'ma ac yn anfon eu plant i wneud pethau efo'r Urdd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.