Pam nad yw menyw gyflymaf Cymru yn cael rhedeg yng Ngemau'r Gymanwlad?

Hannah Brier yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Brier ydi'r ferch gyflymaf yn hanes Cymru yn y 100m a 200m

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Hannah Brier ydi'r fenyw gyflymaf erioed yn hanes athletau Cymru.

Y penwythnos diwethaf fe lwyddodd i dorri record Cymru yn y ras 200m, gan redeg amser o 22.79 eiliad yn Grand Prix Stratford.

Er hynny tydi hi ddim yn gymwys i gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow eleni.

Mi oedd gofyn i athletwyr Cymru redeg eu hamseroedd cyflymaf o'r flwyddyn erbyn 17 Mai.

Roedd hynny dair wythnos yn gynt nag athletwyr yn yr Alban, a phedair wythnos yn gynt nag athletwyr yn Lloegr.

Disgrifiad,

Pam nad yw menyw gyflymaf Cymru yn cael rhedeg yng Ngemau'r Gymanwlad?

Mae Brier, sy'n 28 oed, yn dweud ei bod hi'n siomedig na fydd hi'n cael y cyfle i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, yn enwedig gan ei bod hi'n anhebygol y bydd hi dal i gystadlu pan fydd y Gemau yn India yn 2030.

"Ges i alwad ffôn yn dweud bod fi ddim yn mynd i'r Gemau'r achos o'n i wedi rhedeg yr amser wythnos hyn, ac oedd rhaid i fi ei redeg e wythnos diwethaf," meddai.

"Mae fe'n rili galed.

"Es i i Gemau'r Gymanwlad pan o'n i'n 16 mlwydd oed yn Glasgow [yn 2014] a bydde fo wedi bod yn sbesial i fynd nôl i Glasgow a rhedeg eto.

"Ond yn anffodus bydd hwnna ddim yn digwydd ond gawn ni edrych ymlaen at bopeth arall yn yr haf."

Hannah Brier yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Dan Do Prydain yn 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Brier yn rhan o dîm Swansea Harriers

Brier hefyd ydi'r ferch gyflymaf yn hanes Cymru yn y 100m, yn rhedeg y ras mewn amser o 11.26 eiliad yn 2025.

Mae hi o'r farn y dylai athletwyr fod wedi cael mwy o amser i brofi eu cyflymder cyn y Gemau.

"Mi oedd y deadline yn gynt ar gyfer pobl o fewn athletau. Maen nhw'n gofyn i bobl redeg ym mis Mai, a rhedeg yn gyflym, ac mae hwnna'n rili galed," ychwanegodd.

"Os fi'n gallu rhedeg fel hyn ym mis Mai, mae'n gwneud i fi feddwl be fyddai'n gallu ei redeg pan fydd y Gemau'n dod ym mis Awst?

"Yn mynd ymlaen fi'n meddwl y bydd yn rhaid iddyn nhw edrych ar pryd mae pobl yn gorfod rhedeg yr amseroedd hyn.

Sefyllfa 'rwystredig'

Mae James Williams, Prif Weithredwr Athletau Cymru, yn dweud fod y sefyllfa yn un hynod "rwystredig" i athletwyr fel Brier.

"Rydym yn teimlo y dylai'r dyddiad ar gyfer rhedeg eu hamseroedd gorau fod wedi cael ei ymestyn, ac mae'n fater yr ydym wedi ei godi gyda Thîm Cymru yn y gorffennol."

Ond mae Cadeirydd Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, Gareth Davies, wedi amddiffyn eu polisi.

"Tydyn ni ddim am wneud sylw ar achosion unigol," meddai mewn ymateb i'r BBC am gais am sefyllfa Brier.

"Mae yna athletwyr wedi cael eu henwebu i gymryd rhan yn Glasgow, ac mae'r enwebiadau yna wedi'u cyflwyno i Gemau Gymanwlad Cymru.

"Mae'r broses ddewis yn dechrau ddydd Llun ac yn para tair wythnos, ac mae'r broses lawn wedi'i chyhoeddi ar ein gwefan er tegwch i bawb."

Hannah Brier yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tydi Brier erioed wedi ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad

Er y siom o golli allan ar gael cystadlu yn Glasgow, mae Brier dal ar ben ei digon ar ôl torri record Cymru yn y ras 200m.

Mi oedd y record flaenorol wedi cael ei gosod 44 o flynyddoedd yn ôl gan Michelle Scutt yn 1982.

"Mae'n deimlad amazing. O'n i byth yn meddwl fy mod i am redeg ras mor gyflym a hynny ond fi'n rili hapus.

"O'n i wedi edrych ar y record wythnos diwethaf a meddwl falle fy mod i'n gallu ei wneud e, ond o'n i byth yn meddwl fy mod i'n mynd i redeg mor glou ar y penwythnos achos ei bod hi mor dwym.

"O'n i'n cuddio o'r haul drwy'r diwrnod yn edrych am ddŵr, ond mewn ffordd mi oedd y tywydd wedi helpu achos mi oedd fy nghyhyrau wedi twymo lan.

"Fi ffili credu fe i fod yn onest. Fi'n teimlo'n lwcus iawn i allu galw fy hun y fenyw gyflymaf erioed yn hanes Cymru."

Pynciau cysylltiedig