Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf

Elfyn yn ei gerbyd Toyota GR Yaris Rally1 ddydd Gwener, 2 HydrefFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyrrwr rali o Ddinas Mawddwy, Elfyn Evans, wedi ennill pencampwriaeth y byd yn dilyn ras olaf y tymor yn Sardinia ddydd Sul.

Evans, 37, ydy'r Cymro cyntaf erioed i ennill y tlws fel prif yrrwr, ac fe wnaeth hynny trwy drechu Oliver Solberg dan amgylchiadau annisgwyl o ddramatig.

Yn y cymal olaf un, roedd Solberg ddigon ar y blaen o ran amser, i orffen ar y brig.

Dim ond un pwynt oedd rhwng y ddau yn nhabl y bencampwriaeth wrth iddyn nhw fynd i'r 7.10 cilometr olaf.

Ond gyda thri chornel o'r cwrs i fynd, fe gafodd Solberg ddamwain ac fe aeth ei gerbyd Yaris oddi ar y ffordd.

Er iddo lwyddo i orffen - ac ennill Rali Sardinia - roedd yn ormod o dalcen caled i atal buddugoliaeth y Cymro a'i gyd-yrrwr Scott Martin.

"Dydy o heb suddo i mewn," dywedodd. "Ro'n i'n siŵr bod bob dim ar ben i mi."

'Dwi'n teimlo dros Oliver'

Fe ddechreuodd Evans y cymal olaf cyn ei brif wrthwynebydd, ac felly roedd pwysau arno i geisio sicrhau'r amser mwyaf cyflym posib.

Yn syth ar ôl gorffen, roedd Evans yn "eitha' sicr na fydd o'n ddigon - mi dries i'n galed iawn, ond o'n i'n teimlo 'mod i wedi gwthio'n rhy galed.

"Roedd rhaid i ni roi cynnig arni, ond dwi wedi'n siomi. Dwi ddim yn rhoi'r ffidil yn y to, dwi m'ond yn bod yn onest."

Yr un oedd ei farn am ei berfformiad ei hun, hyd yn oed wedi i ddamwain Solberg roi'r teitl iddo.

"Wnes i ddim gyrru'r cymal ora' a wnes i daflu popeth i mewn ond doedd o ddim yn lân," dywedodd.

"Dwi'n teimlo dros Oliver. Mae o wedi ca'l penwythnos anhygoel."

Ychwanegodd: "Mae'n anodd gw'bod be' ydy fy ymateb. Mae'n swreal, sut wna'th o ddigwydd. Mae'n rhyddhad.

"Nid dyma fydda'r ffordd 'swn i fwya' balch o ennill ond job done."

Elfyn Evans ddydd Gwener, 2 HydrefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Evans yw'r trydydd pencampwr byd o wledydd Prydain, gan ddilyn Colin McRae a Richard Burns

Roedd y Cymro wedi gorffen yn ail yn y bencampwriaeth ar bum achlysur, gan gynnwys y llynedd pan oedd ar y brig cyn y rali olaf yn Saudi Arabia.

Daeth yn ail hefyd yn 2020, 2021, 2023 a 2024.

Roedd disgwyl i rali olaf eleni ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond cafodd ei ganslo yn sgil gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Y rali yn Yr Eidal felly oedd ras olaf yn y bencampwriaeth, ac fe ddechreuodd Evans y penwythnos ar frig y tabl.

Roedd wedi arwain y bencampwriaeth am y rhan fwyaf o'r tymor ond fe fu'n anlwcus i gael tyllau yn ei deiars trwy'r ymgyrch, gan gynnwys yn y tair rali ddiwethaf.

Y Cymro yw'r trydydd pencampwr byd o wledydd Prydain, gan ddilyn Colin McRae a Richard Burns, a'r cyntaf i ennill ers 25 mlynedd. Burns oedd y diwethaf yn 2001.

Mae Solberg yn rhan o'r un tîm Toyota ag Evans ac mi enillodd ei dad, Petter Solberg, y tlws yn 2003.

'Gyrfa hir'

Dywedodd Evans ddyddiau cyn y rali ei fod wedi "cael gyrfa hir yn y gêm 'ma, wrth gwrs mae o be' 'dan ni'n gweithio tuag ata' fo".

"Ond 'dio'm yn mynd i newid bywyd adre', 'dio'm yn mynd i newid bywyd day to day yn diwedd. Mae o'n fwy o nice to have i fi ar y pwynt yma yn hytrach na bod rhaid."

Roedd angen iddo dderbyn 19 pwynt o'r uchafswm o 35 oedd ar gael i unrhyw yrrwr yn y rali dros y penwythnos.

Roedd wedi ennill 19.2 pwynt ar gyfartaledd fesul digwyddiad y tymor yma, cyn Sardinia.

Y pwyntiau terfynol ar frig tabl y gyrwyr oedd:

  1. Elfyn Evans (Toyota) 243

  2. 2. Oliver Solberg (Toyota) 238

  3. 3. Sami Pajari (Toyota) 237

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig