Cyn-gynhyrchydd BBC yn euog o fod â delweddau anweddus o blant

Dylan Dawes
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 6,200 o ddelweddau anweddus o blant eu darganfod ar bedair dyfais yng nghartref Dylan Dawes yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gynhyrchydd BBC wedi cael ei ganfod yn euog o feddu ar, neu greu lluniau anweddus o blant.

Cafodd dros 6,200 o ddelweddau anweddus o blant eu darganfod ar bedair dyfais yng nghartref Dylan Dawes, sy'n 50 oed o Gaerdydd, yn 2022.

Roedd y delweddau anweddus yn cynnwys bron i 200 o luniau Categori A sef y categori mwyaf difrifol.

Cafodd Dawes ei ganfod yn euog o dri chyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant yn 2022, a thri chyhuddiad arall o greu delweddau anweddus o blant rhwng 2006 a 2022.

Dechreuodd Dawes weithio yn y BBC yn 2001 gan ddechrau fel ymchwilydd, ac yna fel cynhyrchydd radio, podlediadau a gweithio ar y wefan.

Dywedodd Dylan Dawes nad oedd ganddo "unrhyw wybodaeth am unrhyw ddelweddau anweddus" ac nad oedd "erioed wedi gweld, cael mynediad at nac wedi lawrlwytho pornograffi plant yn fwriadol".

Fe ddywedodd ei fod wedi edrych ar bornograffi oedolion yn y gorffennol ond roedd yn gwadu bod â diddordeb rhywiol mewn plant.

Yn gweithio yn hen adeilad y BBC yn Llandaf, clywodd Llys y Goron Caerdydd fod staff yno yn aml yn defnyddio offer cydweithwyr.

Dywedodd Mr Dawes ei fod yn mynd â dyfeisiau personol i'r gweithle am resymau ymarferol fel defnyddio meddalwedd nad oedd ar gael ar y gliniadur, a bod y dyfeisiau yn cael eu defnyddio gan gydweithwyr "yn rheolaidd".

Dywedodd hefyd bod dyfeisiau'n cael eu gadael yn y swyddfa, ac weithiau'n gadael yr adeilad dros dro ac roedd yn mynnu mai fe oedd y dioddefwr wrth i "rywun arall" edrych ar bornograffi ar ei ddyfeisiau.

Nid oedd y rheithgor yn ei gredu.

Dylan Dawes
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod 5,794 o luniau wedi eu hadfer gan arbenigwyr o yriant caled Dawes, gan gynnwys 185 yng nghategori A

Dywedodd yr erlyniad nad cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod delweddau wedi eu darganfod ar y dyfeisiau a oedd yn eiddo i Mr Dawes.

Ychwanegodd yr erlyniad fod Mr Dawes wedi bod yn lawrlwytho pornograffi plant dros gyfnod o "tua 16 mlynedd".

Clywodd y llys fod 5,794 o luniau wedi eu hadfer gan arbenigwyr o yriant caled (hard drive) cyfrifiadur Dawes, gan gynnwys 185 yng nghategori A.

Cafodd 483 o luniau arall eu darganfod ar y dyfeisiau a oedd yn perthyn i Dawes, gan gynnwys saith yng nghategori A.

Dywedodd yr erlyniad fod y term "jailbait", a oedd wedi cael ei chwilio ar Google, yn brawf o'i ddiddordeb mewn merched ifanc.

Fe ddywedon nhw fod y delweddau anweddus o blant i gyd yng "nghyfri Dylan" ar ei gyfrifiadur.

Fe glywodd y llys hefyd fod cyfri ebost oedd yn perthyn i Dawes wedi cael ei wahardd oddeutu tair neu bedair wythnos cyn iddo gael ei arestio ar yr 28 Chwefror 2022.

Mae Dylan Dawes bellach yn euog o chwe chyhuddiad yn ymwneud â chreu neu fod a lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 14 Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig