Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 19-24 Yr Alban

- Cyhoeddwyd
Roedd 'na siom i Gymru wrth iddyn nhw golli yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
19-24 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wrth i'r gwrthwynebwyr sgorio tri chais yn erbyn tîm Sean Lynn.
Roedd y tîm cartref 12 pwynt i 10 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn dilyn ceisiau gan Kelsey Jones a Sisilia Tuipulotu.
Fe diriodd Shona Campbell a Lucia Scott yn yr ail hanner i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Alban wedi cais gan Chloe Rollie yn yr hanner cyntaf - gyda Kate Williams yn ceisio i Gymru.
Roedd perfformiad y cloewr ifanc Jorja Aiono yn ei gêm ryngwladol cyntaf yn elfen bositif i Gymru, ac fe ddaeth Maisie Davies, Alaw Pyrs, Molly Reardon, Donna Rose, Seren Lockwood a Georgia Evans i'r maes yn yr ail hanner.
Bydd tîm merched Cymru yn chwarae yn erbyn Ffrainc nesaf yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, 18 Ebrill.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.