Owen Williams a'r grefft o wneud coctels

- Cyhoeddwyd
Gyda'r tywydd yn cynhesu bydd llawer o bobl yn mwynhau coctêl neu moctel yn yr haul dros y misoedd nesaf.
Rhywun sy'n arbenigo mewn gwneud coctels yw Owen Williams, sy'n wreiddiol o Aberaeron ond yn byw yn ardal Treganna, Caerdydd.
Mae gan dudalen instagram Owen, my_cocktail_bible, dolen allanol, bron i 600,000 o ddilynwyr, ac arni mae'n arddangos ei sgiliau o wneud coctels arbennig.

Tequila Espresso Martini gyda malws melys wedi ei dostio
"Dwi 'di setio stiwdio lan adref, a dyna ble rwy'n ffilmio pethau, oni bai bo fi'n gwneud rhyw ddigwyddiadau ar leoliad mewn distyllfa neu lawr yn Llundain.
"Dwi'n gwneud be sy'n cael ei alw'n brand content, ond dwi'n branchio mas 'chydig i wneud digwyddiadau pop-yp fan hyn a fan draw, fel yn ddiweddar 'nes i ddigwyddiad yn nhŷ rhywun gyda 50 o bobl yno."
Brand content ydy pan fydd cwmnïau fel distyllfa yn gyrru deunydd i berson i'w defnyddio ar gyfer clipiau maent yn eu rhoi ar-lein.
"Beth maen nhw'n cael allan o hyn yw bod fi'n hala'r content iddyn nhw ei ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol a marchnata, ond dwi hefyd yn postio cynnwys ar y cyd ar fy nhudalen i, sy'n cael ei ddilyn gan bobl sydd wir yn caru coctels."
Mae Owen hefyd yn gweithio ar y cyd gyda chwmni sy'n cynhyrchu peiriannau coffi.
"Dwi'n setio lan yn showroom nhw a ni'n gwneud coctels coffi a chynnal digwyddiadau a masterclasses yno."

Owen yn canolbwyntio ar ei grefft
Harbourmaster a Baravin
Fe ddechreuodd Owen, sy'n 36 oed, feithrin ei sgiliau gwneud coctels yng Ngheredigion, fel esboniai.
"Dechreuais i yn yr Harbourmaster yn Aberaeron, a doedd 'na ddim coctels yno ar y pryd. Yna un haf fe agorodd Baravin (ar y prom yn Aberystwyth) ac es i lan 'na i weithio.
"Dechreuodd hwnna fel bwyty, ond ath y bobl yn nyts am y coctels. Aeth ein rhestr ni o goctels lan o tua chwech i 60 - roedd e'n amseriad da i ni wneud hynny ar yr adeg yna yn Aberystwyth."

Coctêl Old Fashioned
Dywed Owen mai yn Baravin y datblygodd y gallu i wneud y coctels, wedi cyfnod o arbrofi.
"O'n i a Gareth, a oedd yn rhedeg y lle, yn 24 a 23 mlwydd oed, a gafon ni dipyn o ryddid i wneud beth oedden ni moyn, i weld beth oedd yn gweithio. Felly 'nathon ni ddechrau efo'r coctels clasurol a rhoi ein twist ein hunain arnyn nhw, gan ddefnyddio cynnyrch lleol i gydfynd efo'r diodydd - oedd e'n gyfnod 'nes i rili ei fwynhau.
"O'n i yna am chwe blynedd ac wedyn ddos i mas o'r diwydiant lletygarwch oherwydd yr oriau ag ati.
"O'n i'n gweithio gyda meddalwedd cyfrifiadurol wedyn, felly rhywbeth hollol wahanol. Ond yn ystod y cyfnod clo fe ddechreuais i fy nhudalen cyntaf a dwi 'di bod yn gwneud hyn llawn amser ers rhyw ddwy flynedd bellach."
Wedi rhai blynyddoedd o fyw yng Nghaerdydd, mae Owen yn gobeithio dychwelyd i fyw yn ardal Aberaeron yr haf 'ma.

Owen yn cymysgu diodydd ar gamera
"Dwi 'di dysgu mwy yn y blynyddoedd diweddar bod ochr wyddonol i'r coctels - yn gwneud lot mwy o'r broses clarification (cael gwared o unrhyw ronynnau o fewn y hylif), a phethau mae'r bars yn ei gyflwyno heddiw."

Un o'r hen ffefrynnau, y Piña Colada
Poblogrwydd y coctels coffi
Felly, beth yw'r coctels mwyaf poblogaidd heddiw?
"Mae Espresso Martinis wedi mynd yn enfawr yn ddiweddar, a lot o'r coctels coffi eraill hefyd - mae tua chwarter o'n nhudalen instagram i'n coctels coffi.
"Dwi wrth fy modd efo coffi, ond yn yr ystyr creu coctels coffi."
"Mae coctels sy'n defnyddio coffi mor boblogaidd - dechreuoedd e gyda'r Espresso Martini ac mae wedi tyfu o hynny, ac mae gwahanol fathau o goffi'n creu blasau gwahanol mewn coctels."

Espresso Martini gyda salted caramel
Mae Owen yn gwneud cannoedd o goctels gwahanol, ond pa un yw ei ffefryn?
"Negroni yw'n hoff goctel i. O'dden ni'n neud e yn Baravin, ac oedd pobl yn gweld e'n goch ac yn bert, ac yn disgwyl rhywbeth melys fel mefus. Ond ma' fe acquired taste, a dwi'n hoffi coctels chwerw, a ma'r Negroni'n glasur."
Mae yna rai sy'n arbrofi llawer gyda'r ffordd maen nhw'n cyflwyno coctels, ond dywed Owen fod ei flaenoriaethau o'n glir.
"Bydde'n well 'da fi fynd lawr y llwybr o ddefnyddio cynhwysion o safon uchel, na'r smoke and fires ti'n gweld yn lot o lefydd.
"Mae'n rhaid i'r coctels fod yn bach o sioe - mae'n rhan ohono. Ond ti'n mynd i ambell le a sioe yw'r cyfan, gyda'r coctel ddim yn blasu mor neis â hynny. Bydde'n well gen i lai o sioe a bod y coctel yn blasu'n dda."

Owen yn mwynhau ei Negorni betys a feta
Esblygiad coctels dros y blynyddoedd
Dywed Owen fod y ffordd mae coctels yn cael eu gwneud wedi newid dros y blynyddoedd, o'r clasuron cynnar i'r diodydd mwy melys heddiw.
"Yn yr hen fath o goctels dim ond alcohol oedd ynddyn nhw, doedd dim ffrwyth na syrups na dim yn wreiddiol. Ond dros y blynyddoedd cafodd pethau ei hychwanegu er mwyn dod a'r lefel o alcohol i lawr.
"Mae gen ti hen goctels fel y Gimlet, a'r cyfan oedd e oedd gin gyda lime cordial i wneud yn haws i'w yfed, ond roedd o'n gryf ofnadwy.
"Ond mae blas y boblogaeth wedi mynd yn fwy melys, ac felly mae coctels ar y cyfan llawer mwy melys na beth oedden nhw yn wreiddiol."

Ydi demograffeg, lleoliadau neu oedran yn golygu bod rhai coctels yn fwy atyniadol i grwpiau gwahanol?
"Mae'n un rhyfedd, achos ma'r dilyniant sydd gen i o dros y byd, gyda lot yn America, ac maen nhw'n wahanol i fan'ma.
"Ma'r Manhattan yn boblogaidd yn America gyda dynion a merched, ac ynddo mae wisgi a vermouth.
"Ond os chi'n rhoi'r diodydd 'na i bobl y wlad yma, a dwi'n meddwl bydde fe'n fwy poblogaidd gyda dynion na menywod. Ond eto, mae'r Espresso Martini'n rhywbeth dwi'n sylwi mae pawb yn licio, fel Mojito a Margarita."
Gyda Owen yn symud o Gaerdydd yn ôl i Geredigion yr haf 'ma, bydd pobl Aberaeron llawn cyffro am y coctels clasurol a newydd fydd yn dychwelyd i'r ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd16 Mai 2023

- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023
