Dathlu llwyddiant clwb 'fedar Caernarfon fod yn falch ohono'

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 6, Danny Gossett a Darren Thomas gyda Chwpan Cymru ar lwyfan yng nghanol Maes Caernarfon, Capten Caernarfon Danny Gossett yn dal Cwpan Cymru gyda'r ymosodwr Darren Thomas i'w chwith a chwaraewyr eraill y tu ôl iddyn nhw
  • Cyhoeddwyd

Roedd yna ddathlu yng nghanol Caernarfon ddydd Sul yn dilyn llwyddiannau diweddar clwb pêl-droed y dref.

Fis diwethaf fe gipiodd y Cofis Gwpan Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb, gan sicrhau lle yng Nghyngres Europa y tymor nesaf.

Roedd cannoedd o bobl ar Faes Caernarfon brynhawn Sul wrth i chwaraewyr arddangos y tlws, ond mae timau eraill y clwb hefyd wedi helpu sicrhau bod tymor 2025-2026 yn un cofiadwy.

Enillodd y tîm Dan-19 Gwpan Ieuenctid Cymru ddechrau Ebrill a chyn diwedd y mis fe gafodd y tîm merched Dan-17 eu coroni'n bencampwyr y North Wales Girls Football League.

Rhai o aelodau'r tîm merched Dan-17 gyda'u tlws am ennill y bncampwriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau'r tîm merched Dan-17 gyda'u tlws am ennill y bencampwriaeth

Gan ddiolch i'r dorf am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, dywedodd cadeirydd y clwb Paul Evans bod ennill Cwpan Cymru wedi bod "yn freuddwyd" yr oedd llawer wedi amau na fyddai byth yn cael ei gwireddu.

"Mae hyn yn meddwl y byd i ni fel clwb," dywedodd wrth BBC Cymru.

"'Dan ni 'rioed wedi curo'r cwpan 'ma yn ein hanes felly fedrwch chi feddwl faint o bwysig a faint o sbesial ydi o."

Yr hyn sy'n bwysig wrth symud ymlaen, meddai, yw creu "clwb fedar Caernarfon a'r ardal fod yn falch ohono".

"Dyna pam 'dan ni'n 'neud o i gyd. Os fedran ni fod yn llwyddiannus [hefyd] - wel, ma' hynna'n helpu, yn tydi."

Cerflun Lloyd George o flaen y castell a'r faner Cofi Army
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerflun o Lloyd George fel petai hefyd yn dathlu llwyddiant y clwb pêl-droed!

Mae llwyddiant y tîm yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru'n golygu bod y Caneris yn paratoi ar gyfer ymgyrch Ewropeaidd am yr eildro yn eu hanes.

Y tro cyntaf, yn 2024, fe aethon nhw allan yn ail rownd ragbrofol Cynghres Uefa ar ôl cael eu trechu gan un o dimau mwyaf Gwlad Pwyl, Legia Warsaw.

"Ma' mynd i Ewrop yn golygu lot fawr i ni yn ariannol, ond hefyd y ffaith bod ni 'n ca'l chwara' yn Ewrop am yr ail waith mewn tair blynedd," dywedodd Paul Evans.

Bu'n rhaid iddyn nhw chwarae eu gemau cartref yn y gystadleuaeth y tro hwnnw yn Stadiwm Nantporth, Bangor gan fod eu maes eu hunain, Yr Oval, ddim yn cyrraedd gofynion Uefa.

Mae gwaith gwerth £1m yn mynd rhagddo ers Tachwedd y llynedd i uwchraddio'r safle, sy'n golygu y bydd modd chwarae gemau Ewropeaidd yng Nghaernarfon yn y dyfodol, ac fe fydd y gêm gyntaf un yn Yr Oval, medd Paul Evans, yn "sbesial".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig