Dim cyfarfod rhwng y prif weinidogion y mis hwn wedi'r cyfan

Siaradodd Syr Keir Starmer a Rhun ap Iorwerth ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Ni fydd cyfarfod a gynlluniwyd rhwng prif weinidog Cymru a phrif weinidog y DU y mis hwn yn digwydd bellach, meddai Llywodraeth Cymru.
Yn fuan ar ôl yr etholiad dywedodd Downing Street y byddai Syr Keir Starmer yn cyfarfod ag arweinwyr datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon y mis nesaf.
Ond mae llefarydd ar ran Rhun ap Iorwerth yn dweud na fydd unrhyw gyfarfod yn digwydd y mis hwn, gan ychwanegu: "Ni ddylid caniatáu i'r ansefydlogrwydd presennol yn San Steffan amharu ar ein gallu i fynd ar drywydd y materion sy'n bwysig i bobl Cymru."
Dywedodd Downing Street bod Syr Keir Starmer "yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfarfod â'r prif weinidogion cyn gynted â phosibl".
Siaradodd Rhun ap Iorwerth a Syr Keir Starmer ym mis Mai yn sgil etholiad hanesyddol y Senedd, a ddisodlodd Lafur ar ôl dwy ddegawd o redeg Llywodraeth Cymru, gan weld Plaid Cymru fel y blaid fwyaf.
Rhoddodd y ddwy ochr ddisgrifiadau gwahanol o'r alwad ar y pryd - gyda Llywodraeth Cymru yn dweud bod Starmer wedi dweud ei fod yn "agored i sgwrs" ynghylch rhoi mwy o bwerau i'r Senedd.
Dywedodd datganiad gan Downing Street fod y ddau wedi "trafod cydweithio'n adeiladol er budd y genedl, gan gynnwys ar leddfu costau byw a'n hymateb domestig i argyfwng y Dwyrain Canol, a chytuno ar bwysigrwydd partneriaeth i gyflawni dros bobl Cymru".
Ychwanegodd bod Starmer wedi gwahodd Rhun ap Iorwerth "i gyfarfod yn bersonol ym mis Mehefin, ochr yn ochr â phrif weinidog yr Alban a phrif weinidog a dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon, i barhau â thrafodaethau ar flaenoriaethau a rennir."
Ni chafodd dyddiad ei gyhoeddi ar gyfer cyfarfod. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod ap Iorwerth wedi codi pwnc annibyniaeth wrth siarad â Starmer.
'Siomedig'
Dywedodd llefarydd prif weinidog Cymru: "Mae'n siomedig nad yw'r cyfarfod a gynigiwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Mehefin bellach yn digwydd.
"Rydym yn dal yn benderfynol i sefydlu perthynas adeiladol â Llywodraeth y DU ac i bwyso am gyllid teg, ochr yn ochr â datganoli plismona, cyfiawnder, lles, Ystâd y Goron a phwerau rheilffyrdd.
"Ni ddylid caniatáu i'r ansefydlogrwydd presennol yn San Steffan amharu ar ein gallu i fynd ar drywydd y materion sy'n bwysig i bobl Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod Starmer "yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfarfod â'r prif weinidogion cyn gynted â phosibl, ac mae ein timau'n parhau i weithio i gytuno ar amser addas yn nyddiaduron pawb.
"Yn y cyfamser, mae ymgysylltiad rheolaidd ac adeiladol ar bob lefel â gweinyddiaethau datganoledig - wrth i'r llywodraeth fwrw ymlaen â chyflawni ar gyfer pobl ledled y DU."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod awgrym Jo Stevens yn "anghywir ac yn gamarweiniol"
Yn y cyfamser yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, beirniadodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens Lywodraeth Cymru am beidio â chadarnhau a fydd yn "cefnogi aelodaeth lawn y DU o NATO".
Roedd Jo Stevens wedi ysgrifennu at y llywodraeth yn gofyn am ymrwymiad i gefnogi Valor, cynllun i helpu cyn-filwyr i gael mynediad at ofal a chymorth.
Dywedodd llythyr ymateb y Gweinidog Cyllid Elin Jones, o 8 Mehefin: "Gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a sicrhau mynediad teg at ofal iechyd, tai, cyflogaeth, addysg, sgiliau a hyfforddiant i gyn-filwyr a'u teuluoedd."
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae amddiffyn a materion tramor yn faterion heb eu datganoli sydd wedi'u cadw ar gyfer Llywodraeth y DU. Mae Cymru yn aelod o NATO yn ddiofyn drwy'r DU, a gwneir pob penderfyniad strategol – gan gynnwys ymrwymiadau NATO – yn San Steffan.
"Felly mae unrhyw awgrym bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio tanseilio neu dynnu cefnogaeth i aelodaeth y DU o NATO yn ôl yn anghywir ac yn gamarweiniol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.