'Cynnwrf' Casnewydd wrth baratoi am Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf

Stondin Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen, Gwent 2027
GanDavid Grundy
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae "cynnwrf" yng Nghasnewydd wrth i'r gwaith o baratoi i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2027 ddechrau o ddifrif.

Mae angen i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Bro'r Wenynen godi degau o filoedd o bunnau, gyda rhaglen brysur o weithgareddau wedi eu cynllunio er mwyn cyrraedd eu targed.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â Chasnewydd tair gwaith yn y gorffennol ond dyw prifwyl yr Urdd heb wneud hynny hyd yn hyn.

Gobaith Cyngor Dinas Casnewydd, drwy estyn y gwahoddiad, ydi cynyddu nifer y plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Eisteddfod Bro'r Wenynen fydd enw'r wŷl yn 2027 a fydd yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tredegar.

Teyrnged yw'r enw i Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, fu'n noddwr blaenllaw o'r celfyddydau, y diwylliant gwerin a'r iaith Gymraeg.

Ei henw barddol oedd 'Gwenynen Gwent' ac mae'n cael ei chofio'n bennaf fel dyfeisydd y Wisg Gymreig.

Chwaraeodd rôl hanfodol yn adfer yr iaith Gymraeg a thraddodiadau Gwerin Cymru yn ei hardal gan gynnwys y Delyn Deires, dawnsio a chanu gwerin a'r Fari Lwyd.

Lona Jones-Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lona Jones-Campbell yn gobeithio y bydd plant Gwent yn "gweld effaith y 'steddfod yn eu cynefin"

Agorodd ysgol Gymraeg gyntaf y ddinas ym 1993 ac ers sefydlu Ysgol Gymraeg Casnewydd, mae tair ysgol gynradd Gymraeg arall ac un ysgol uwchradd wedi agor.

Drwy agor y bedwaredd ysgol gynradd Gymraeg ym mis Medi 2021, roedd Cyngor Casnewydd yn gallu cynnig 50% yn fwy o leoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg.

Mae gan y cyngor gynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gydag addysg yn ganolog i'r cynllun.

Mae'r cyffro yn amlwg iawn yn un o'r ysgolion cynradd hynny: Ysgol Bro Teyrnon yn ardal Bryn-glas.

"Mae'r cyffro'n wahanol achos mae'n dod i'n stepen ddrws, ar yr aelwyd fel petai," meddai pennaeth yr ysgol, Lona Jones-Campbell.

"I blant Gwent bydden nhw wedyn yn gweld effaith y 'steddfod yn eu cynefin."

Dywedodd y bydd cynnal yr ŵyl yn yr ardal yn help i hybu'r Gymraeg yn yr ardal ehangach.

"Mae 'na amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n mynd i godi proffil yr iaith" a chynnig cyfleoedd "i'r plant fod yn rhan o ddigwyddiadau cymunedol hefyd" drwy godi arian meddai. Ond mae hefyd yn gobeithio y byddan nhw'n "mwynhau ar yr un pryd".

Dafydd Duggan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Duggan yn dweud bod modd "edrych ar leoliadau eraill yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gynnal eisteddfodau Genedlaethol a'r Urdd"

Mae yna amcangyfrif bod cynnal yr eisteddfod yn costio dros £2.5 miliwn gyda disgwyl i bwyllgorau lleol gyfrannu'n sylweddol at y swm.

Faint o her ydi hynny mewn ardal ddifreintiedig fel Gwent a hynny mewn argyfwng costau byw?

"Mae problemau costau byw yn effeithio ar yr ardal yma yn enwedig gan fod Casnewydd yn un o'r llefydd tlotaf o ran tlodi i blant," meddai Prif Swyddog Menter Casnewydd, Dafydd Duggan.

"Ond 'dan ni'n gallu edrych ar leoliadau eraill yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gynnal eisteddfodau Genedlaethol a'r Urdd, a 'dan ni'n frwdfrydig iawn i godi'r arian sydd ei angen," meddai.

Elin Maher
Disgrifiad o’r llun,

Yr hyn sydd bwysicaf i Elin Maher ydy eu bod yn "codi digon o arian er mwyn cael gŵyl gwerth chweil"

Mewn dinas sydd â thua 5% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg mae yna obeithion y bydd ymweliad yr Eisteddfod yn helpu ymdrechion i gynyddu'r niferoedd.

"Gallen ni siarad am dargedau ariannol hyd ddydd y farn," meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Bro'r Wenynen, Elin Maher.

"Be' sy'n bwysig i ni yw ein bod ni'n codi'r arian 'y ni'n gallu yn y cyfnod sydd ohoni...yn amlwg mae targedau yn dod ond maen nhw'n mynd hefyd."

"Beth sy'n bwysicach i ni yw ein bod ni'n codi digon o arian er mwyn cael gŵyl gwerth chweil, ond y peth pwysicaf drwy'r gweithgarwch yna yw codi'r ymwybyddiaeth am yr iaith," meddai.

Disgrifiad,

'Cymreictod yn golygu lot fawr i fi' - Lloyd Lewis dan deimlad

Un arall sy'n edrych ymlaen at ymweliad yr Urdd y flwyddyn nesaf ydi Lloyd Lewis sydd, gyda'i ffrind Dom James, wedi paratoi Cân Croeso'r ŵyl.

"Dwi'n dod o Gwmbrân felly mae'n bwysig iawn i mi ac mae'n fraint i fod yn rhan ohono fe," meddai.

"Prif beth y gân yw balchder dros yr ardal, sôn am ba mor gwych fod e mor aml-ddiwylliannol a trio cwmpasu popeth oedd yn bwysig i'r plant a dwi'n meddwl bo' ni wedi llwyddo i wneud hynny.

"Mae'n class bod yr Eisteddfod yn dod i ardal fi, es i i Ysgol Gymraeg Cwmbrân, o'n i'n cystadlu ym mhob Eisteddfod yr Urdd yn tyfu lan.

"A mae e just yn wych, mynd o gwmpas y plant a gweld pa mor keen oedden nhw a faint o nhw eisiau cyfrannu a pa mor angerddol oedden nhw so ie mae'n brofiad gwych."

Wrth i'r Eisteddfod baratoi i fynd o Fôn i Fynwy, neu'n ddigon agos, rŵan mae'r gwaith caled yn dechrau go iawn.

Mae'r aelodau o bwyllgor gwaith Casnewydd yn brysur yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau i godi arian ar gyfer y gronfa leol.

Mae'r nod yn glir: sicrhau llwyddiant Eisteddfod Bro'r Wenynen, a gadael gwaddol yn ardal Gwent am flynyddoedd i ddod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.