Epilepsi: 'Dwi wedi cael fy ngwrthod ar gyfer 300 swydd mewn blwyddyn'

Roedd yn rhaid i Sophie Morgan adael ei swydd yn 2024 i gael llawdriniaethau ar ei hymennydd, ond dyw hi ddim wedi gallu cael swydd newydd ers hynny
- Cyhoeddwyd
Ers cael diagnosis o epilepsi yn 13 oed, mae Sophie Morgan wedi ceisio gwneud popeth i gael bywyd "normal", o lawdriniaethau ar ei hymennydd i nifer o wahanol feddyginiaethau.
Ond un o'r heriau mwyaf iddi, a hithau nawr yn 28 oed, yw cael swydd.
Er bod ganddi radd a gradd meistr, mae Sophie yn dweud ei bod wedi gneud cais ar gyfer 300 o swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda dim ond un cyfweliad aflwyddiannus.
"Mae'n rhaid i fi dderbyn y peth. Dyw e ddim yn iawn, ond fi'n dysgu i addasu iddo fe," meddai.
Mae Sophie, o Gasnewydd, yn dweud bod cyflogwyr wedi dweud wrthi sawl tro nad ydyn nhw'n gallu addasu ar gyfer ei chyflwr, neu'n mynd yn ddistaw pan mae hi'n sôn amdano.
"Mae ceisio canfod swydd gydag epilepsi fel ceisio canfod nodwydd mewn tas wair - mae hi 10 gwaith yn anoddach i ni, ac mae'n frwydr barhaus," meddai.
Dim ond 44% o bobl gydag epilepsi sydd â swydd, yn ôl data Llywodraeth y DU.
'Fi ddim yn broblem i unrhyw weithle'
"Fi'n gymwys, ma' 'da fi brofiad, a bydden i'n hoffi meddwl bo' fi'n berson neis," meddai Sophie.
"Fi ddim yn meddwl bo' fi'n broblem i unrhyw weithle - ond maen nhw wastad yn meddwl bo' fi."
Er bod ganddi radd mewn addysg gydag anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad, a gradd meistr mewn chwarae datblygiadol a therapiwtig, mae Sophie wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cael ei gwrthod am swyddi.

Er bod ganddi radd meistr, mae Sophie yn dweud ei bod wedi cael ei gwrthod ar gyfer 300 o swyddi yn y flwyddyn ddiwethaf
Mae epilepsi yn gyflwr sy'n cael effaith ar yr ymennydd ac mae'n achosi trawiadau (seizures) neu ffitiau.
Does dim modd gwella ohono'n llwyr, ond gall triniaethau helpu i ddelio â'r symptomau.
Cafodd Sophie ddwy lawdriniaeth ar ei hymennydd yn 2024 er mwyn ceisio darganfod achos yr epilepsi, ond fe ddaethon nhw i'r casgliad na fyddai'n ddiogel i dynnu'r rhan o'r ymennydd sy'n ei achosi.
Dywedodd fod hyn wedi bod yn ergyd fawr iddi, a hithau wedi gobeithio y gallai roi mwy o ryddid iddi fyw bywyd "normal".
Roedd yn rhaid iddi beidio cymryd meddyginiaeth am chwe mis fel y gallai meddygon fonitro ei thrawiadau, ac roedd angen gofal 24 awr y dydd arni am wythnosau wedi'r llawdriniaeth.
Oherwydd hyn, a'r ffaith fod y llawdriniaeth wedi digwydd yng Nghaerdydd, bu'n rhaid i Sophie adael ei swydd mewn addysg gynradd ac ildio'r tŷ roedd hi'n rhentu yn Abertawe - dau beth oedd yn ergydion anferth iddi.

Mae Sophie yn dweud fod ceisio dod o hyd i swydd yn "frwydr barhaus"
Fe symudodd Sophie i mewn i gartref aelod o'r teulu yng Nghasnewydd - roedd hyn i fod am gyfnod o chwe mis yn wreiddiol, ond mae hi bellach yno ers dwy flynedd.
"Am bo' fi methu cael swydd, fi ddim yn gallu symud mas," meddai.
"Os bydden i'n gallu cael swydd gallai hynny newid, ond dyw e ddim yn ymddangos bod cyflogwyr yn ddigon meddwl-agored, a dydyn nhw ddim yn rhoi croeso i bobl gydag epilepsi.
"Mae wedi bod yn anodd iawn, iawn, ac mae fy iechyd meddwl wedi cael ergyd enfawr."
Dyw Sophie ddim ar ei phen ei hun o ran teimlo bod ei chyflwr yn cael effaith ar ei gallu i gael swydd.
Yn ôl elusen Epilepsy Action, mae chwech o bob 10 o bobl yn dweud eu bod wedi wynebu gwahaniaethu oherwydd y cyflwr.
Mewn astudiaeth arall gan yr elusen o 500 o gyflogwyr a rheolwyr, dywedodd bron i hanner y byddan nhw'n gyndyn i recriwtio rhywun gydag epilepsi.

Dywedodd Sophie bod ei hiechyd meddwl "wedi cael ergyd enfawr"
O'i holl geisiadau, dywedodd Sophie ei bod wedi cael un cyfweliad, ym mis Ebrill.
"Unwaith nes i sôn am epilepsi, 'naeth y tôn newid," meddai.
"Ro'n i'n teimlo'n anghyfforddus iawn. 'Naethon nhw anwybyddu fe mewn ffordd - doedden nhw ddim eisiau gwybod mwy, na gofyn unrhyw gwestiynau.
"Ond ro'n i eisiau dweud wrthyn nhw bod dim angen iddyn nhw boeni amdana i'n llewygu ar y llawr yn ystod gwaith - dyw e ddim yn gweithio fel 'na."
Dywedodd Sophie fod ceisiadau am swydd yn amrywio - rhai yn cynnig bocs i nodi unrhyw anableddau, tra'i bod wedi gorfod dweud yn ddiweddarach i geisiadau eraill.
"Fi yn hoffi cyfeirio ato fe mewn cyfweliad - fi ddim mo'yn cuddio'r peth, a dyw e ddim yn rhywbeth ma' 'da fi gywilydd ohono fe."

Cafodd Sophie lawdriniaeth naw awr yn 2024 er mwyn ceisio canfod achos ei thrawiadau
Mae Sophie yn derbyn budd-daliadau Lwfans Ceisio Gwaith a'r Taliad Annibyniaeth Personol, ond nes bod ganddi gyflog, dyw hi ddim yn gallu cael cefnogaeth i ganfod cartref.
Un peth sy'n rhwystredig iddi yw'r "diffyg gwybodaeth" am epilepsi ymysg cyflogwyr - "dyw e ddim yn oleuadau'n fflachio, ar y llawr yn cael trawiad," meddai.
Mae nifer o'i thrawiadau yn drawiadau absenoldeb - absence seizures - ble mae pobl yn colli ymwybyddiaeth o'r hyn sydd o'u hamgylch am gyfnod byr.

Mae Sophie yn dweud ei bod yn lwcus bod ei ffrindiau wedi dysgu am ei chyflwr er mwyn ei chefnogi
Dywedodd Epilepsy Action fod gan bob cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol dan y Ddeddf Cydraddoldeb i beidio â gwahaniaethu, a gwneud addasiadau rhesymol i bobl gydag epilepsi.
"Mae creu gweithle cynhwysol ble gall pobl gydag epilepsi lwyddo nid yn unig o fudd i bobl gyda'r cyflwr, ond i'r cyflogwr hefyd," meddai llefarydd.
Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023

- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022
