'O'dd gen i gywilydd cael herpes, ond dwi eisiau cael gwared â'r stigma'

Melys o flaen castellFfynhonnell y llun, Julian Tse
GanLena Mohammed
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Yn ei hugeiniau cynnar, doedd Melys Edwards byth yn gadael y tŷ heb sbectol haul.

Nid oherwydd y tywydd, ond achos bod ganddi gywilydd.

"O'n i'n gwisgo sbectol haul am tua blwyddyn, o'n i ddim gallu edrych mewn llygaid pobl, o'n i ddim yn teimlo'n gryf mewn fy hun."

Roedd hynny am ei bod wedi cael diagnosis o haint sy'n cael ei drosglwyddo'n rhywiol - herpes gwenerol, neu genital herpes.

Er mai'r symptomau corfforol oedd y peth cyntaf i'w hwynebu, dywedodd Melys, sydd o Wrecsam, mai'r stigma oedd anoddaf.

"Do'n i erioed wedi teimlo cymaint o shame o'r blaen.

"O'n i'n gwisgo sbectol haul am tua blwyddyn. Do'n i ddim yn gallu edrych pobl yn y llygaid.

"Roedd pobl yn dweud fy mod i'n shell of myself."

Melys ar draethFfynhonnell y llun, Emrah Zengin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melys yn grëwr cynnwys digidol ac yn gerddor

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), mae herpes gwenerol yn cael ei ddiagnosio amlaf ymhlith menywod a phobl rhwng 15 a 24 oed, gyda'r cyfraddau uchaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y data ddiweddaraf.

Roedd 913 o achosion pwl cyntaf o herpes gwenerol yng Nghymru yn 2025, o'i gymharu â 1,321 yn y flwyddyn flaenorol.

Er y ffigwr is, rhybuddiodd ICC bod angen ystyried bod data clinigol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn anghyflawn yn ystod 2025 yn sgil problemau gyda system cofnodion cleifion electronig newydd.

Er hynny, dywedodd ICC bod y gostyngiad cyffredinol mewn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ledled Cymru yn parhau'n ganfyddiad clir.

Mae'r darlun yn wahanol yn Lloegr, lle cynyddodd diagnosisau newydd 3% yn 2025.

Melys EdwardsFfynhonnell y llun, Emrah Zengin
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Melys ar gyfres Amour & Mynydd ar S4C yn gynharach eleni

I Melys, sy'n 29 ac yn creu cynnwys digidol ar-lein, roedd y diagnosis yn teimlo fel diwedd y bywyd roedd hi wedi'i ddychmygu.

"Ro'n i'n teimlo fel 'dyma fi rŵan'.

"Ro'n i'n meddwl bod fy mywyd yn mynd yn llawer, llawer llai."

Ond yn ôl y cyn-ymgynghorydd iechyd rhywiol, Dr Olwen Williams, er bod y pryder yna'n gyffredin, yn aml mae'n ddiangen.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl na fyddan nhw byth yn cael rhyw eto," meddai.

"Ond dydy hynny ddim yn wir o gwbl."

Mae cyffuriau gwrthfeirol fel acyclovir yn gallu byrhau hyd yr achosion a lleihau'r tebygolrwydd o ymddangos eto, meddai.

"Peth pwysig iawn ydy peidio panicio. Mae cymorth ar gael."

Melys EdwardsFfynhonnell y llun, Julian Tse

Mae Melys yn credu iddi ddal yr haint o gael rhyw gyda rhywun oedd yn gwybod bod ganddo'r feirws, ond nad oedd wedi dweud wrthi.

Dywedodd mai mynd yn ôl i'r byd dêtio oedd un o'r heriau mwyaf.

Er bod rhai wedi ymateb gyda dealltwriaeth, cafodd ei gwrthod a'i hanwybyddu gan eraill ar ôl datgelu ei diagnosis.

Mae'n cofio dweud wrth ddyn roedd wedi dod i'w adnabod wrth deithio am ei diagnosis cyn iddyn nhw gyfarfod am baned.

"Dywedodd fod ganddo barch mawr ata i am fod mor agored," meddai.

"Ond wedyn dywedodd nad oedd yn meddwl y bydden ni'n cwrdd eto.

"Ac o'n i'n meddwl, you don't catch it from having a cuppa."

Er bod yr ymatebion hynny wedi bod yn boenus, mae'n dweud eu bod hefyd wedi dangos iddi pwy oedd yn ei derbyn yn llawn fel person.

'Llawer yn cario'r feirws heb wybod'

Mae Dr Williams yn dweud bod llawer mwy o bobl yn byw gyda'r feirws na sy'n sylweddoli hynny, gyda "llawer o bobl yn cario'r feirws heb wybod".

Esboniodd fod dau fath o'r feirws herpes simplex - gan amlaf roedd herpes simplex math 1 yn achosi briwiau annwyd a math 2 yn achosi herpes gwenerol.

Ond erbyn hyn mae mwy o bobl yn datblygu herpes gwenerol o'r feirws sy'n achosi briwiau annwyd yn pasio yn ystod rhyw.

Dydy llawer o bobl ddim yn datblygu symptomau, ond i'r rhai sydd yn gweld yr arwyddion mae'n gallu cynnwys pothelli (blisters) neu friwiau poenus, symptomau tebyg i'r ffliw a chwarennau chwyddedig (swollen glands).

Mae'r feirws hefyd yn gallu aros yn segur yn y corff ac ymddangos yn ddiweddarach.

Yn y pen draw, penderfynodd Melys roi'r gorau i guddio ei diagnosis a dechrau siarad amdano'n gyhoeddus drwy ei barddoniaeth a'r cyfryngau cymdeithasol.

"Do'n i ddim eisiau pobl eraill wisgo sbectol haul am flwyddyn fel fi.

"Dwi eisiau i'r sgyrsiau yma fod yn normal."

Ers hynny, mae nifer o bobl wedi cysylltu â hi'n breifat i ddiolch iddi: "'Mae gen i hwnna hefyd' ydy'r neges dwi'n ei chlywed dro ar ôl tro.

"Mae pobl na fyddwn i erioed wedi meddwl yn dweud wrtha i eu bod nhw'n byw gyda herpes hefyd."

'Byw efo herpes ddim yn newid bywyd rhywun'

Yn ôl Dr Williams, diffyg gwybodaeth yw un o'r prif resymau bod herpes gwenerol yn dal i gario cymaint o stigma.

"Mae'r hunan-stigma yn aml yn dod o beidio gwybod ac o feddwl bod pobl eraill yn edrych arnon ni'n wahanol," meddai.

"Da ni'n gwybod bod y feirws yma yn gyffredin. Mae llawer o bobl yn ei gael, ac yn aml dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod bod ganddyn nhw fo."

Yn ei phrofiad fel cyn-ymgynghorydd, dywedodd fod yr effaith emosiynol yn aml yn llawer mwy na'r salwch ei hun.

"Crachen annwyd bach ar y genitals ydy genital herpes."

Dywedodd bod modd i bobl fyw bywydau normal, cael perthnasoedd iach, cael rhyw a chael plant.

"Dydy byw efo herpes ddim yn newid bywyd rhywun o gwbl. Inconvenience ydy o i lot o bobl.

"Ond cynghorir pobl i beidio â chael rhyw pan fyddan nhw'n sâl gyda'r feirws.

"Mewn gwirionedd mae'n eithaf anghyfforddus cael rhyw yr adeg hynny ond hefyd dyma pryd mae modd trosglwyddo'r feirws."

Dr Olwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaethau i bobl mewn ardaloedd gwledig yn her, yn ôl Dr Olwen Williams

Fodd bynnag, mae Dr Williams yn rhybuddio bod cael diagnosis a thriniaeth yn gallu bod yn anoddach i bobl mewn rhannau gwledig o Gymru.

"Y sialens fwyaf sydd gyda ni ydy lle mae pobl yn byw yng Nghymru," meddai.

"Mae'n anodd iawn cael gwasanaethau i lefydd tu allan i'r dinasoedd.

"Mae trafnidiaeth yn broblem, ac er bod clinigau mewn rhai ardaloedd, efallai mai unwaith yr wythnos yn unig maen nhw'n rhedeg.

"Dydy hynny ddim yn helpu unrhyw un sydd angen cymorth mewn brys."

Ychwanegodd fod angen strategaeth newydd a buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau iechyd rhywiol er mwyn lleihau achosion newydd o HIV ac heintiau eraill.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae atal afiechyd yn flaenoriaeth allweddol i'r llywodraeth hon, a dyna pam rydym wedi penodi Gweinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol.

"Rydym yn asesu anghenion ein poblogaeth mewn perthynas ag atal, profi a thrin heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV er mwyn gwella gwasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru."

Melys EdwardsFfynhonnell y llun, Melys Edwards

Bum mlynedd ar ôl y diagnosis a drodd ei bywyd ben i waered, mae Melys yn dweud nad yw'r feirws yn ei diffinio bellach.

Petai'n siarad â'r fersiwn ohoni ei hun a gafodd y newyddion y diwrnod hwnnw, mae'n gwybod yn union beth fyddai'n ei ddweud.

"Mae'n iawn teimlo'n flin rŵan.

"Ond dydy o ddim yn newid eich gwerth o gwbl."

Mae'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn teimlo'n ddigon hyderus i gael y sgyrsiau hynny'n agored.

"Os ydyn ni ddim yn siarad am bethau, mae'r stigma yn parhau.

"Os gall fy stori helpu rhywun arall i deimlo ychydig yn llai ar ei ben ei hun, mae hynny'n gwneud gwahaniaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig