Clwb pêl-droed i'r digartref sy'n 'achub bywydau' yn poeni y bydd yn rhaid cau

Tîm Cwpan y Byd Digartref merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed ar gyfer pobl sy'n wynebu digartrefedd yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw gau os nad ydyn nhw'n llwyddo codi mwy o arian.
Wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, ond yn gweithredu ar draws y wlad, mae angen i elusen Pêl-droed Stryd Cymru gasglu £15,000 erbyn diwedd y mis.
Dywedodd yr actor Michael Sheen, sydd yn y gorffennol wedi ariannu Cwpan y Byd Digartref 2019, ei fod wedi gweld yr effaith y mae'r gefnogaeth yn ei chael ar fywydau pobl. Dywedodd un fenyw ei fod yn llythrennol wedi achub ei bywyd.
Yn ôl yr elusen mae ganddyn nhw rywfaint o gyllid yn dod fis Mai, ond mi fyddai'n rhaid iddyn nhw "gau'n barhaol" os na fydden nhw'n casglu gweddill yr arian.

Wayne Ellaway ydy swyddog datblygu Pêl-droed Stryd Cymru
Dywedodd cyfarwyddwr dros dro yr elusen, Bethan Thomas fod y sector elusennol wedi mynd yn "gynyddol gystadleuol ac anodd" ers y pandemig, sydd wedi gadael sefydliadau fel eu rhai nhw "yn rhy ddibynnol ar grantiau".
"Dydyn ni ddim yn unigryw yn y frwydr hon," ychwanegodd.
Mae'r elusen yn helpu mwy na 400 o bobl bob blwyddyn sy'n wynebu digartrefedd, yn camddefnyddio sylweddau, yn wynebu heriau iechyd meddwl a heriau eraill.
Yn ogystal â chynnal sesiynau hyfforddi wythnosol a thwrnameintiau bob tymor, mae'r sefydliad yn cystadlu yng Nghwpan y Byd i'r Digartref bob blwyddyn. Mae'n cael ei chynnal ym Mecsico yn ddiweddarach eleni.
Byddai'n "annhebygol" y byddai'r timau'n mynd pe bai'r elusen yn cau.

Yng Nghwpan y Byd Digartref 2018 y gwnaeth Wayne gyfarfod â'i wraig
Roedd Wayne Ellaway o Gaerdydd yn byw mewn lloches i'r digartref ac yn gaeth i heroin pan ddysgodd am bêl-droed stryd.
"Roeddwn i wedi colli popeth, dim ffocws, dim cyfeiriad, dim pwrpas."
Newidiodd ei fywyd meddai ar ôl iddo chwarae yng Nghwpan y Byd Digartref 2015 yn Amsterdam.
Aeth ymlaen i hyfforddi'r tîm yn y twrnamaint yn 2018 ym Mecsico a dyna ble y gwnaeth Wayne gyfarfod â'i wraig, Luisiana.
Mae'r cwpl bellach yn byw gyda'i gilydd yng Nghaerdydd ac mae'n annog pobl i gefnogi'r elusen.
"Peidiwch â rhoi rhodd ac yna symud ymlaen. Gwnewch e'n bersonol. Dewch â phâr o esgidiau pêl-droed, dewch i gael gêm gyda ni," meddai.

"Pan gerddais trwy'r drws, cefais groeso yn syth," meddai Tor Planner
Un arall a gafodd groeso gan yr elusen mewn cyfnod tywyll yn ei bywyd, oedd Tor Planner.
"Collais i fy swydd achos doeddwn i methu mynd i'r gwaith, chwalodd fy mherthynas, a doeddwn i ddim yn gweld fy ffrindiau ddim mwy."
Penderfynodd ymuno ar ôl gweld digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yn agos i'w chartref yn Sir Benfro.
"Pan gerddais trwy'r drws, cefais groeso yn syth. Diflannodd fy ofnau o'r dechrau," meddai.
Dywedodd nad oedd y pêl-droed wedi newid ei bywyd ond yn hytrach wedi achub ei bywyd cyn ychwanegu y byddai cau'r elusen yn dorcalonnus.
Dywedodd Michael Sheen hefyd fod yr elusen yn "llawer mwy na chicio pêl".

Teithiodd Tor Planner i Oslo ym mis Awst 2025 ar gyfer Cwpan y Byd Digartref
Ymunodd Helen Ward, cyn-chwaraewr i Gymru, â'r elusen bedair blynedd yn ôl a dywedodd y byddai cau'r elusen yn "gadael bwlch na all unrhyw beth ei lenwi".
Dywedodd, ar ôl ei hymweliad cyntaf, nad oedd angen iddi ystyried y peth cyn cymryd rhan.
"Fi'n credu bod hwn yn wirioneddol unigryw," meddai.
"Nid dim ond gwella bywydau mae'n ei wneud, mae'n achub bywydau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2025

- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2019

- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2024
