Dathlu Hen Dŷ Cwrdd Trecynon a'r 'gwir arwr' Undodol, Tomos Glyn Cothi

- Cyhoeddwyd
Bydd dathliad mewn hen gapel yn Rhondda Cynon Taf ddydd Sadwrn ar ôl cwblhau gwaith adfer sy'n golygu ei fod yn bosib bellach i ddefnyddio'r adeilad fel adnodd cymunedol.
Mae'r Hen Dŷ Cwrdd yn Nhrecynon â lle nodedig yn hanes yr Undodiaid yng Nghymru - roedd yr ymgyrchydd radicalaidd a gweinidog cyntaf yr Undodiaid yng Nghymru, Tomos Glyn Cothi, yn weinidog yno yn yr 17eg ganrif.
Cafodd yr adeilad presennol ei godi yn y 1860au, ond fe gaeodd ei ddrysau yn 1988 pan unodd yr aelodau â chapel Undodaidd arall Aberdâr, Highland Place.
Mae dathliad ddydd Sadwrn yn cynnwys ffilm am Eisteddfodwyr yr Hen Dŷ Cwrdd, darlith am Tomos Glyn Cothi, arddangosfa o ffotograffau ac arteffactau yn ymwneud â'r capel, a gwaith celf gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Mae'r adeilad ym meddiant Addoldai Cymru ers 2005 - yr ymddiriedolaeth sy'n gwarchod mannau addoli anghydffurfiol yng Nghrymu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Eglurodd Tanya Jenkins o Addoldai Cymru mai'r Hen Dŷ Cwrdd "yw'r achos anghydffurfiol hynaf yng Nghwm Cynon" a bod ei hanes yn ymestyn i 1650.
"Mae'r gynulleidfa wedi bod yn addoli ar y mynydd gerllaw, rhwng Aberdâr a Merthyr, ers y cyfnod yna," meddai.
"Wedyn 'ny, yn 1751, maen nhw'n adeiladu tŷ cwrdd a'r gynulleidfa yn addoli yn y fan yna.
"Yna, yn 1862, pan oedd y gynulleidfa wedi troi yn Undodiaid, dyma nhw'n codi tŷ cwrdd newydd a dyna'r tŷ cwrdd sydd ym meddiant Addoldai Cymru heddi."

Eglurodd bod gofyn i adeilad ateb meini prawf y corff treftadaeth rhwyngwladol UNESCO cyn y gallai'r ymddiredolaeth ei feddu.
"Mae'n rhaid bod rhyw fath o arwyddocad iddyn nhw - yn hanesyddol, pensaernïol neu ysbrydol," dywedodd.
'Tomos oedd y gwir arwr'
Yn ystod dathliad ddydd Sadwrn fe fydd darlith am Tomos Glyn Cothi - enw barddol y Parchedig Thomas Evans - gan y Dr Marion Loeffler o Brifysgol Caerdydd.
Ei nod, meddai, fydd "dangos Tomos yn ei gyfanrwydd - fel dyn ond hefyd fel radical, fel Cymro oedd yn byw mewn dwy ardal hollol wahanol trwy gydol ei fywyd".
Fe symudodd, meddai, o "ardal ddiarffordd, amaethyddol" i "ardal ddiwydiannol newydd, brysur" yn 47 oed, a byw a phregethu yno nes ei farwolaeth yn 69 oed.
"Nath y ddiddordeb o ran Tomos Glyn Cothi ddechrau gyda gyda fy ymchwil i Iolo Morganwg ond yn fuan sylweddolais mai Tomos oedd y gwir arwr.
"Tomos oedd wedi cyhoeddi yr ail gylchgrawn radical a gyhoeddwyd erioed yn y Gymraeg, Y Drysorfa Gymysgedig.
"Hefyd Tomos Glyn Cothi oedd y gweinidog Undodol cyntaf yng Nghymru a ordeinwyd yn 1794.
"Hefyd, aeth Iolo Morganwg i'r carchar am ddyled - aeth Tomos Glyn Cothi i'r carchar am egwyddorion - am ganu cân ymfflamychol, radical.
"Felly, dyn oed oedd yn gorfod gweithio fel gwehydd trwy gydol ei fywyd, oedd yn gorfod gweithio fel labrwr amaethyddol, ac oedd hefyd wedi sefyll lan dros Undodiaeth, dros ryddid a dros y Chwyldro Ffrengig.
"Oedd e'n ddyn 'peryglus' oherwydd oedd e'n trosglwyddo syniade o fod yn gyfartal - dyna pam oedd o'n beryglus i'w wladwriaeth a dyna pam oedd o'n gorfod mynd i'r carchar."

Mae byrddau gwybodaeth newydd wedi eu gosod tu allan i'r Hen Dŷ Cwrdd fel rhan o'r gwaith adfer
Nid Tomos Glyn Cothi oedd yr unig gyn-aelod o'r capel â rhan amlwg o ran diwylliant Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol.
Cyfeiriodd Tanya Jenkins at William Williams "oedd yn cael ei adnabod wrth ei enw barddol Y Carw Coch.
"O'dd e'n athro ysgol sul yn Hen Dŷ Cwrdd. Oedd e wedi sefydlu Aberdare Free Thinkers [a] sefydlu cyfres o eisteddfodau tafarn.
"Mae Llywelyn Alaw yn un arall - telynor enwog iawn yn y 19eg ganrif."
Hanes y cyn-aelodau hyn oedd canolbwynt rhan gyntaf prosiect a gafodd arian gan y Loteri Genedlaethol i'w wireddu.
Gwaith adfer i'r adeilad ei hun oedd ail ran y prosiect, gan gynnwys gosod tŷ bach a chegin fach y tu mewn i'r capel - camau sy'n golygu bodd modd bellach ei gynnig i grwpiau a chymdeithasau lleol ei logi.
Mae gwelliannau wedi eu cwblhau i'r fynwent ac mae llwybr newydd yn arwain at feddau Tomos Glyn Cothi a'r telynor Llywelyn Alaw.

Mae'n bosib bellach i grwpiau a chymdeithasau lleol logi'r adeilad nawr bod cegin a thŷ bach wedi eu gosod yno
Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Natalie Lancaster: "Mae'n hyfryd gweld Hen Dŷ Cwrdd Trecynon yn cyrraedd y cam newydd pwysig hwn.
"Mae'r gwaith nid yn unig wedi gwella'r cyfleusterau, ond hefyd wedi ein helpu i ddod â straeon y bobl a'r cymunedau rhyfeddol sy'n gysylltiedig â'r adeilad yn fyw.
"Rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn annog mwy o bobl i ymweld, darganfod hanes diddorol y capel a mwynhau'r lle arbennig hwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.