Dau wleidydd a gafodd eu gwahardd yn sefyll yn etholiad y Senedd

Rhys ab Owen a Russell George
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys ab Owen a Russell George yn ceisio cael eu hail-ethol fel aelodau annibynnol

GanCatrin Haf Jones
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae dau wleidydd a gafodd eu gwahardd o'u pleidiau yn ystod y Senedd ddiwethaf wedi cadarnhau y byddan nhw'n ceisio cael eu hail-ethol i Fae Caerdydd fel aelodau annibynnol ym mis Mai.

Cafodd Rhys ab Owen ei ethol i'r Senedd fel aelod Plaid Cymru yn 2021, ond fe fydd yn sefyll yn annibynnol y tro hwn yn etholaeth newydd Caerdydd Penarth.

Bydd y cyn-aelod Ceidwadol o'r Senedd, Russell George, a etholwyd gyntaf i Fae Caerdydd yn 2011, yn sefyll yng Ngwynedd Maldwyn.

Mae rhestr lawn o'r holl bleidiau ac ymgeiswyr sy'n sefyll yn y ddwy etholaeth ar gael ar wefan yr awdurdodau lleol perthnasol.

Roedd yn rhaid i bob ymgeisydd at etholiad y Senedd gadarnhau eu henwau erbyn 9 Ebrill.

Dan y drefn etholiadol newydd eleni, bydd chwe ymgeisydd yn cael eu hethol ar gyfer pob un o 16 etholaeth newydd y Senedd.

Honiadau o ymddygiad amhriodol

Cafodd Rhys ab Owen ei ethol i'r Senedd fel aelod Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru ym mis Mai 2021.

Ond cafodd ei wahardd o'r blaid ym mis Tachwedd 2022 yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol, ac mae wedi bod yn aelod annibynnol ym Mae Caerdydd ers hynny.

Cafodd ei wahardd o'r Senedd am chwe wythnos yn 2024 ar ôl i gorff cynnal safonau'r Senedd ganfod ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy fenyw tra'n feddw ​​ar noson allan ym mis Mehefin 2021.

Dywedodd y pwyllgor seneddol a fu'n ystyried y casgliadau ar y pryd fod Ab Owen wedi gwadu'r honiad o gyffwrdd amhriodol.

Mewn datganiad cyn ei waharddiad, dywedodd Ab Owen ei fod yn derbyn "cyfrifoldeb am ei ymddygiad a chanlyniadau'r ymddygiad hwnnw".

Mae Llafur Cymru, Plaid Cymru, Reform UK, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a'r Blaid Werdd i gyd ag ymgeiswyr yn etholaeth newydd Caerdydd Penarth.

Mae Plaid Gomiwnyddol Prydain, plaid Heritage, a phlaid Propel hefyd yn sefyll yn yr etholaeth.

Cyhuddo o droseddau betio

Roedd Russell George yn cynrychioli etholaeth Sir Drefaldwyn yn y Senedd ddiwethaf, ond cafodd ei wahardd o grŵp Ceidwadol y Senedd ym mis Ebrill 2025 ar ôl cael ei gyhuddo, ynghyd â 14 o rai eraill, o droseddau betio.

Fe ddaeth y cyhuddiadau yn sgil ymchwiliad i fetiau ar amseru etholiad cyffredinol 2024.

Mae George wedi gwadu'r cyhuddiadau ac mae'n aros am ei achos llys ar hyn o bryd.

Mae Llafur Cymru, Plaid Cymru, Reform UK, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Blaid Werdd i gyd ag ymgeiswyr yn etholaeth newydd Gwynedd Maldwyn.

Mae plaid Gwlad a phlaid Heritage hefyd yn sefyll, yn ogystal â'r ymgeisydd annibynnol Monty Kennard.

Gall cyn-aelodau o'r Senedd sy'n ceisio cael eu hail-ethol, ond yn aflwyddiannus, hawlio taliad dirwyn i ben gwerth tri mis o gyflog.

Maen nhw hefyd yn gymwys i hawlio taliad ailsefydlu, gwerth mis o gyflog am bob blwyddyn gyflawn yr oedden nhw'n aelod o'r Senedd, hyd at uchafswm o chwe mis o gyflog.

Dim ond taliad dirwyn i ben o ddau fis o gyflog sy'n ddyledus i aelodau o'r Senedd sy'n dewis peidio sefyll eto – a does dim hawl ganddyn nhw i unrhyw daliadau ailsefydlu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.