Carcharu pedwar dyn am gynnau tân tŷ wrth i fenyw, 82, gysgu tu mewn

Connor PittFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys mai Connor Pitt oedd wedi trefnu'r ymosodiad

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar dyn wedi eu carcharu am losgi tŷ menyw 82 oed yn fwriadol wrth iddi gysgu, gan achosi gwerth dros £770,000 o ddifrod.

Clywodd y llys fod y tân wedi'i gysylltu â dyledion cyffuriau wyrion y fenyw, gyda thystiolaeth yn dangos bod yr ymosodiad bwriadol wedi'i drefnu ar gyfer oriau mân y bore.

Cafodd y dynion eu dal ar deledu cylch cyfyng yn mynd at y tŷ a chynnau'r tân, cyn cael eu harestio'n ddiweddarach wrth ffoi o'r ardal.

Dywedodd y barnwr fod eu gweithredoedd yn dangos "diffyg parch llwyr at fywyd dynol".

Auryn Guster, Alfie Wheeler, Lewis ManitoFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd (o'r chwith) Auryn Guster, Alfie Wheeler, Lewis Manito hefyd eu carcharu

Cafodd Carol Ford, 82, ei thargedu yn ei chartref yng Nglynrhedynog, Rhondda Cynon Taf, lle roedd hi wedi byw am 61 mlynedd.

Cafodd y tân ei gynnau tua 01:30 ar 28 Gorffennaf 2025 pan gafodd petrol ei dywallt drwy'r blwch llythyrau a ffenestr flaen a oedd wedi'i chwalu.

Dywedodd yr erlyniad fod hwn yn ymosodiad oedd wedi'i dargedu tra roedd yr unigolyn yn cysgu, gyda'r tân yn lledaenu'n gyflym ac yn llosgi sawl eiddo a cheir yn yr ardal.

Clywodd y llys fod tri o'r dynion, Connor Pitt, 24, Auryn Guster, 19 ac Alfie Wheeler, 19, y tri o o Weston-super-Mare, wedi cael eu gweld ar gamera yn gwisgo balaclafas wrth gerdded o gar Seat gwyn cyn dechrau'r tân.

Cafodd y car ei ddilyn gan yr heddlu a'i atal yng Nghaerdydd ac fe gafodd y tri dyn eu harestio, gan gael eu disgrifio yn arogli o betrol.

Cafodd Lewis Manito, 33, ei arestio'n ddiweddarach yn Weston-super-Mare, a chlywodd y llys ei fod wedi gwneud gwaith gyrru yn achlysurol i Pitt ac wedi cludo'r grŵp ar y noson.

Tân Glynrhedynog

Fe wnaeth y tân ddinistrio dau dŷ, difrodi trydydd a difrodi tri char, gyda chyfanswm gwerth y difrod yn fwy na £771,000.

Dywedodd Carol Ford mewn datganiad ei bod wedi colli nid yn unig ei chartref ond ei holl atgofion, gan ddweud nad oedd hi'n meddwl y byddai byth yn gwella o'r trawma.

Clywodd y llys fod merch Ms Ford wedi'i geni yn y tŷ a bu farw ei gŵr yno, a dywedodd fod rhan ohoni wedi "dymuno y byddai hi hefyd wedi marw'r noson honno" oherwydd yr effaith feddyliol a gafodd y tân arni.

Dywedodd y barnwr fod ymosod ar gartref tra bod rhywun yn cysgu yn dangos "diffyg parch llwyr am fywyd dynol".

Rhoddodd ddedfrydau o 13 mlynedd o garchar i Connor Pitt, 10 mlynedd a chwe mis i Auryn Guster, wyth mlynedd i Alfie Wheeler a naw mlynedd i Lewis Manito.

Pynciau cysylltiedig