Teulu'n croesawu adolygiad wedi marwolaeth menyw mewn gwrthdrawiad

Aimee Coombes (dde) gyda'i chwaer Sophie Brimble
- Cyhoeddwyd
Mae teulu menyw ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad wedi croesawu cynlluniau i ystyried newid y gyfraith ynghylch pobl sy'n cael eu hystyried yn anaddas i sefyll eu prawf yn y llys.
Bu farw Sophie Brimble o Grucywel ym Mhowys yn 20 oed ar ôl i'w chariad Jay Bayliss daro polyn lamp ym Mryn-mawr, Blaenau Gwent, yn 2017.
Roedd yn gyrru bron deirgwaith y terfyn cyflymder ar y pryd.
Penderfynwyd bod Bayliss wedi'i anafu'n rhy ddrwg i sefyll ei brawf yn y llys, ac ar ôl iddo gael ei ddatgan yn anaddas unwaith eto eleni, cafodd ei ryddhau'n llwyr.
Mae'r teulu wedi lansio deiseb sydd wedi cael ei llofnodi gan fwy na 10,000 o bobl, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud eu bod yn "cytuno bod angen diweddaru'r gyfraith ac yn ystyried diwygiadau".

Roedd teulu Sophie Brimble wedi bod yn galw ar y llywodraeth i ystyried newid y gyfraith
Mae bod yn anaddas i bledio yn cyfeirio at sefyllfa lle nad yw diffynnydd troseddol yn gallu sefyll eu prawf oherwydd eu cyflwr corfforol neu feddyliol.
Mae'r ddeiseb yn galw am roi mwy o bwerau i'r llysoedd mewn achosion lle mae rheithgor yn canfod bod rhywun wedi achosi niwed difrifol neu farwolaeth, gan gynnwys y gallu i osod gwaharddiad gyrru.
Mae hefyd yn galw am ystyried hawliau dioddefwyr i gael cyfiawnder a lleihau'r risg i ddiogelwch y cyhoedd.
Mae nifer y llofnodion ar y ddeiseb yn golygu bod yn rhaid i'r llywodraeth ymateb iddi.
Dywedodd chwaer Sophie, Aimee Coombes, 32, fod ymateb cadarnhaol y llywodraeth bod angen newid yn "rhyddhad" i'r teulu, ond mai'r cwestiwn bellach yw "pa mor hir mae e'n mynd i gymryd?"
'Mae'r dyn a laddodd fy chwaer wrth rasio ei gar yn dal i gael gyrru'
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
Carchar am ladd wedi ras geir â ffrind
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019
Euog o ladd ar ôl ras geir gyda ffrind
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019
Yn 2019, cafwyd ffrind Jay Bayliss, Neil Brooks, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ar ôl i'r ddau benderfynu rasio ar ffyrdd preswyl.
Dywedodd Heddlu Gwent fod y ddau gar yn teithio ar gyflymder o fwy nag 80mya ar ffyrdd â therfyn o 30mya ychydig cyn i Jay Bayliss golli rheolaeth.
Ar y pryd, cafodd Bayliss ei ystyried wedi'i anafu'n rhy ddrwg i sefyll ei brawf yn y llys.
Fe wnaeth yr heddlu ailagor yr ymchwiliad yn 2024 ar ôl darganfod ei fod wedi llwyddo i ailymgeisio am drwydded yrru.
Cafodd ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ond ar ddechrau'r achos eleni cafodd ei ddatgan unwaith eto yn anaddas ar gyfer achos troseddol.
O dan y gyfraith bresennol, os yw llys yn canfod ar sail tystiolaeth feddygol nad yw person yn ffit i sefyll prawf, ni all yr achos troseddol fynd yn ei flaen.
Ond gall erlynwyr barhau i gael y mater wedi'i glywed fel achos ffeithiau, sef gwrandawiad cyhoeddus i benderfynu a gyflawnodd y diffynnydd y troseddau honedig.

Bu farw Sophie Brimble yn y gwrthdrawiad ar ôl i Jay Bayliss golli rheolaeth ar ei gar wrth rasio
Yn ystod achos ffeithiau, fe wnaeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd ganfod bod Jay Bayliss yn gyfrifol am achosi marwolaeth Sophie Brimble drwy yrru'n beryglus.
Ond roedd yr opsiynau oedd ar gael i'r barnwr mewn gwrandawiad dedfrydu yn gyfyngedig ac nid oedden nhw'n cynnwys dedfryd o garchar na gwaharddiad rhag gyrru.
Cafodd Bayliss ei ryddhau'n llwyr, ac nid oedd gan y llys y pŵer i gymryd ei drwydded yrru.
"Fi'n credu ein bod ni i gyd wedi synnu braidd 'da'r canlyniad," meddai Aimee Coombes, chwaer Sophie.
Dywedodd mai dyna oedd y foment pan benderfynodd y teulu a'u ffrindiau sefydlu'r ddeiseb, gan ychwanegu: "Mae angen newid hyn fel nad oes rhaid i unrhyw deulu arall fynd drwy'r hyn 'dyn ni wedi bod drwyddo."
Diffiniadau o 200 mlynedd yn ôl
Yn ôl Comisiwn y Gyfraith, cafodd y diffiniadau presennol o fod yn "anaddas" eu llunio tua 200 mlynedd yn ôl, ac nid ydyn nhw'n ystyried dealltwriaeth feddygol fodern.
Mae argymhellion a gyhoeddwyd gan y comisiwn ddegawd yn ôl yn cynnwys prawf newydd ar gyfer bod yn anaddas i bledio, newidiadau i'r broses wrandawiadau a phwerau mwy effeithiol i'r llys pan mae honiadau'n cael eu profi.
"Dwi jyst eisiau iddyn nhw sefyll yn ein lle ni am ddau funud i weld beth 'dyn ni wedi bod drwyddo, a beth mae teuluoedd eraill wedi bod drwyddo," meddai Aimee.
"Mae fel pe bai wedi cael ei anwybyddu, a dyna ni, ond ni ddylai deimlo fel 'na oherwydd dylai pawb gael cyfiawnder."

Cafodd Jay Bayliss ei ryddhau'n llwyr yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Ebrill
Mewn ymateb i'r ddeiseb, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn cytuno bod angen diweddaru'r gyfraith ac yn derbyn y rhan fwyaf o argymhellion Comisiwn y Gyfraith.
Dywedodd eu bod yn "ystyried diwygiadau, gan gynnwys ystod ehangach o opsiynau i'r llysoedd a phwerau mwy effeithiol i ddiogelu dioddefwyr a'r cyhoedd."
Ychwanegodd y weinyddiaeth fod hynny'n cynnwys gorchmynion i "gryfhau goruchwyliaeth a chaniatáu trefniadau mwy pwrpasol i wella diogelwch y cyhoedd".
Dywedodd y byddai hefyd yn ystyried sut y gellid gwneud y gweithdrefnau'n "gliriach ac yn fwy cefnogol i ddioddefwyr a'u teuluoedd".
'Teimlo fel tasg amhosib'
Yn y cyfamser, dywedodd Aimee y byddai'r teulu'n ceisio codi nifer y llofnodion ar eu deiseb i 100,000, sy'n golygu y byddai'n rhaid i Senedd y DU drafod y newid arfaethedig i'r gyfraith.
"Mae'n teimlo fel tasg amhosib, ond fe wnawn ni wthio mor bell ag y gallwn ni," meddai.
"Pan gerddon ni allan o'r llys, roedd hi'n teimlo fel nad oedd bywyd Sophie o bwys, ac yn amlwg y dylai hi fod wedi cael y cyfiawnder roedd hi'n ei haeddu.
"Byddai gwybod y gallai rhywun arall gael hynny os bydd hyn i gyd yn newid - gallai fod yn gamp fawr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.