Gallai rheolau treth dadleuol ar dai gwyliau gael eu llacio

Tai lliwgarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i lety gwyliau gael eu llenwi am 182 diwrnod er mwyn cymhwyso i dalu trethi busnes

GanDaniel Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y gallai rheolau treth ar dai gwyliau gael eu llacio ar ôl i berchnogion gwyno.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith gostyngiad "cymedrol" i'r trothwy trethi busnes 182 diwrnod ar lety hunanarlwyo.

Mae perchnogion eiddo yn talu treth y cyngor uwch os nad ydy'r eiddo ar osod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Elin Jones ei bod hefyd eisiau mwy o eithriadau "clir a rhesymol" i'r rheol.

Dywedodd plaid Reform bod angen "cynllun mwy uchelgeisiol i ostwng y trothwy".

Ond dywedodd PASC, sy'n cynrychioli busnesau sy'n darparu llety hunanarlwyo, eu bod yn "croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y dystiolaeth ac wedi cydnabod bod angen adolygu'r trothwy 182 diwrnod presennol".

Dywedodd Plaid Cymru yn ei maniffesto y bydden nhw yn adolygu'r rheol 182 diwrnod, sydd ar waith ers mis Ebrill 2023.

Roedd yn un o'r polisïau a gyflwynwyd i leihau nifer yr ail gartrefi fel rhan o gytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd ddiwethaf.

Cyn hynny, roedd yn rhaid i eiddo fod ar gael am 140 diwrnod o'r flwyddyn a'i osod am 70 diwrnod i fod yn gymwys ar gyfer trethi busnes – mae'r rheolau yn dal i fodoli yn Lloegr.

O dan y drefn Gymreig, mae angen i eiddo fod ar gael am o leiaf 252 diwrnod a'i osod am gyfartaledd o 182 diwrnod dros gyfnod aml-flwyddyn.

Os nad yw'n cyrraedd y trothwy, mae'n cael ei adnabod fel ail gartref ac mae'n rhaid talu treth y cyngor.

Mewn rhai siroedd mae premiwm ychwanegol ar y dreth.

Yng Ngwynedd, er enghraifft, mae perchnogion ail gartrefi yn talu'r dreth â 150% ychwanegol.

'Y cydbwysedd cywir'

Bydd ymgynghoriad gan y llywodraeth yn edrych ar "a yw'r trothwy 182 diwrnod wedi'i osod ar y lefel gywir a pha effaith y gallai gostyngiad cymedrol ei chael".

Mae hefyd yn cynnig pum eithriad posibl newydd ar gyfer llety na ellir ei ddefnyddio fel cartrefi parhaol, gan gynnwys eiddo ar fferm y perchennog.

Dywedodd Elin Jones: "Dw i wedi clywed sylwadau gan nifer o fusnesau sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i'w heconomïau lleol ond nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy presennol.

"Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddod o hyd i ateb sy'n gweithio'n well i bawb, gan gynnwys busnesau, awdurdodau lleol ac ardaloedd lleol.

"Dw i wedi ymrwymo i gael y cydbwysedd cywir – cadw cartrefi yn ein cymunedau a rhoi i dwristiaeth y cymorth angenrheidiol i ffynnu."

'Mwy o fiwrocratiaeth?'

Dywedodd Reform UK Cymru bod angen mwy o fanylion ar y diwydiant twristiaeth ynghylch beth fyddai "gostyngiad cymedrol" arfaethedig yn y trothwy yn ei olygu'n ymarferol ac a fyddai'n ddigon i hybu cystadleurwydd.

Dywedodd eu llefarydd Louise Emery AS: "Gallai cynigion Plaid Cymru o fwy o eithriadau olygu mwy o fiwrocratiaeth," meddai.

"Yn hytrach na dim ond chwarae o amgylch yr ymylon, mae angen gweithredu cynllun mwy uchelgeisiol i ostwng y trothwy."

Dywedodd Nicky Williamson, cynghorydd polisi PASC yng Nghymru: "Rhaid i'r ymgynghoriad hwn gael ei yrru gan dystiolaeth.

"Rydym am i bob gweithredwr esbonio sut mae'r rheolau presennol yn effeithio ar eu busnes a pham mae trothwy realistig yn hanfodol os yw twristiaeth Cymru am barhau i fod yn gystadleuol.

"Nid yw ein nod erioed wedi bod i gael gwared ar y gwahaniaeth rhwng busnesau gwyliau dilys ac ail gartrefi.

"Y nod yw sicrhau nad yw busnesau twristiaeth hyfyw yn cael eu cosbi gan ofyniad meddiannaeth na all llawer ei gyflawni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.