Dyn wedi'i gyhuddo o drywanu bachgen 17 oed yn Y Barri

Nifer o bobl yn torheulo ar y traeth ar Ynys y Barri yn yr haul. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Collodd bachgen 17 oed ei goes ar ôl cael ei drywanu ar Ynys y Barri fis Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi ymddangos o flaen ynadon ar ôl i lanc 17 oed gael ei drywanu ar Ynys y Barri ac fe gollodd ei goes yn sgil yr ymosodiad fis Mai.

Mae Idris Ahmed, o Lan yr Afon, Caerdydd, wedi'i gyhuddo o anafu bwriadol a bod â chyllell yn ei feddiant.

Mae'n gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad.

Wrth ymddangos gerbron yr ynadon yng Nghaerdydd fore Sadwrn, yn gwisgo siwmper lwyd, siaradodd Idris Ahmed, dim ond i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.

Dywedodd yr erlynydd Angharad Jones fod y bachgen 17 oed wedi dioddef anafiadau sy'n newid ei fywyd yn yr ymosodiad a ddigwyddodd ar Ynys y Barri ar 25 Mai.

"Mae'r mater hwn yn ymwneud ag achos difrifol iawn, lle cafodd y dioddefwr anaf difrifol ar ôl cael ei drywanu a arweiniodd at golli ei goes islaw'r pen‑glin,"meddai.

"Digwyddodd y drosedd mewn man cyhoeddus ar ddydd Llun Gŵyl y Banc prysur iawn gyda channoedd o bobl o gwmpas."

Dywedodd yr amddiffynnydd Ellis Worsley fod Idris Ahmed yn gwadu unrhyw ran yn y digwyddiad ac fe ofynnodd i'r ynadon ystyried rhoi mechnïaeth iddo.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron barnwr yng Nghaerdydd ar 3 Gorffennaf.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn dweud bod y dioddefwr yn dal i gael gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.