'Mwy nag erioed wedi cofrestru i gystadlu' yng Ngŵyl Cerdd Dant y Cofis

Ysgol Glanaethwy yn ymarfer
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r Ŵyl Cerdd Dant ddychwelyd i Gaernarfon am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, mae'r trefnwyr yn dweud bod mwy wedi cofrestru i gystadlu nag erioed o'r blaen.
Dyma'r ŵyl gystadleuol undydd fwyaf o'i bath yng Nghymru, ac mae'n cyfuno cystadlaethau cerdd dant, canu gwerin, llefaru, dawnsio gwerin, cystadlaethau'r delyn a barddoniaeth.
Bydd yn cael ei chynnal yn Galeri ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd.
Cyn 1996, doedd yr ŵyl ddim wedi ymweld â'r ardal ers yr un gyntaf yn y Felinheli yn 1947, a dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith 2026, Dafydd Roberts ei bod hi'n "hen bryd, felly, i ni roi'r croeso cynhesaf posib i bawb i Wynedd, i dre'r Cofi, ac i Galeri a Doc Fictoria".

Mae'r ŵyl yn mynd o nerth i nerth yn ôl y trefnydd, John Eifion Jones, gyda mwy o gystadlu nag erioed o'r blaen
Yn ôl Trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant, John Eifion Jones, mae'r ŵyl yn "mynd o nerth i nerth", gyda mwy o gystadlu eleni nag erioed o'r blaen.
"Mae 'na fwy o gystadlu torfol na sy 'di bod o'r blaen efo partïon cynradd, uwchradd, partïon a chorau agored yn niferus iawn," meddai.
"'Dan ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o 'neud petha' tra'n cofio am ein diwylliant a'n treftadaeth traddodiadol ni.
"Mae 'na noson eleni am y tro cynta' noson cyn yr ŵyl mewn gwesty yn y dre'.
"Noson werin, noson i godi hwyl ac yn y blaen.
"Mae'n neis gweld y diwylliant traddodiadol mewn cyd-destun tu allan i lwyfan cystadleuaeth."

Galeri yng Nghaernarfon fydd lleoliad Gŵyl Cerdd Dant 2026
Mae Ysgol Glanaethwy ymhlith y rhai sydd wedi cystadlu dros y blynyddoedd, ac yn ôl un o'r disgyblion, Miri Sion, mae'n braf cael cyfle i brofi cerdd dant.
"Dydy lot o bobl ifanc ddim yn cael lot o brofiad ohono fo dim mwy," meddai.
"Mae'n braf cael cymharu barddoniaeth ar lafar i farddoniaeth ar gerdd dant.
"Mae'n sicr wedi cyflwyno fi i lot o wahanol gerddi faswn i heb ddarllen cynt felly dwi'n meddwl bod o'n bwysig ofnadwy."
Ychwanegodd Sion Arwyn, un arall o'r disgyblion: "Mae o'n rhywbeth mor bwysig i'r wlad dwi'n meddwl - mae o'n rhan o pwy ydan ni.
"Ma' pawb yn cystadlu'n Steddfod a ballu - mae'r Ŵyl Cerdd Dant yn rwbath 'da ni'n lwcus iawn i gael.
"Dwi'n teimlo'n hyderus ynddo fo bellach, dwi'n mwynhau a 'di g'neud lot o ffrindiau drwy gystadlu."

Yn ôl Sion Arwyn fydd yn cystadlu gyda Ysgol Glanaethwy, mae Cerdd Dant yn "bwysig i'r wlad", ac yn "rhan o pwy ydan ni"
Mae gan Gyd-gyfarwyddwr Artistig Ysgol Glanaethwy, Cefin Roberts gysylltiad â'r ŵyl ers pan oedd yn blentyn.
"Tua wyth oed o'n i pan nes i gystadlu yn yr Ŵyl Cerdd Dant am y tro cynta', yn Rhuthun yn y chwedegau.
"Dwi'n cofio meddwl adeg hynny bod ni'n rhan o rwbath arbennig.
"Wrth gwrs, ma' gynnoch chi'r ddeuoliaeth efo'r traddodiad - mae rhai yn trio'i gadw fo mewn cas gwydr, achos os na fyddwn ni'n ofalus fyddwn ni wedi'i newid o'n ormodol a fyddwn ni 'di colli'r tarddiad gwreiddiol.
"Ond ar y llaw arall mae 'na rywun fel fi, sy'n gweithio efo pobl ifanc falla - mae'n rhaid i ni fod yn barod hefyd i'w clustia' nhw.
"Ond os na s'gynnoch chi'r gwreiddiau hefyd, s'gynnoch chi 'nunlla i sefyll arno fo rhywsut - a dyna ma' rwbath fel yr Ŵyl Cerdd Dant yn rhoi iddyn nhw."

Bydd tlysau arbennig eleni i'r Côr Gwerin buddugol, wedi eu creu gan y gof Ann Catrin Evans, i gofio un o hoelion wyth y byd cerdd dant, Leah Owen.
Bydd tlysau arbennig i'r Côr Gwerin buddugol eleni, wedi eu creu gan y gof Ann Catrin Evans - yn ddathliad o un o hoelion wyth y byd cerdd dant, Leah Owen.
Dywedodd ei hwyres, Gwenno Llwyd Beech bod y teulu yn falch o'r cyfle i'w choffáu.
"Mae'r Ŵyl Cerdd Dant mor bwysig i ni fel teulu," meddai, "a dwi'n cofio ymarfer efo Nain.
"Dwi'n cofio gwario amser yn yr ystafell biano a chwerthin a jyst edrych ymlaen gymaint.
"O'n i wastad yn teimlo balchder mynd i'r Ŵyl Cerdd Dant a Leah Owen o'dd Nain."

Dywedodd Ann Hopcyn ei bod yn falch bod yna'r "fath fwrlwm o gystadlu" yn ardal Caernarfon
Nid dim ond canu ydy cerdd dant, a chyda'r ŵyl yn eu bro, mae'n gyfle i barti llefaru'r Heulyn o'r Felinheli gystadlu yno am y tro cyntaf.
Mae Ann Hopcyn yn cyfeilio iddyn nhw ar y delyn, a'i hwyres Non yn y parti.
"Mae 'na bobl wedi ffurfio partïon a chorau, a phobl wedi dod 'nôl at ei gilydd," meddai Ann.
"Dwi'n falch ofnadwy o Gaernarfon a'r ardal bod 'na fath fwrlwm o gystadlu."
Ychwanegodd Non: "'Da ni'n cael dipyn o hwyl yn ystod yr ymarferion. Mae'n neis bod Mam-gu yn cyfeilio a bod Mam yn rhan o'r parti hefyd.
"Gan bod ni'n g'neud o fel grŵp o'r Felinheli hefyd, 'da ni'n cael dod i 'nabod rhai o'r merched hŷn hefyd, a gweld nhw'n wythnosol."
Straeon Perthnasol
Gŵyl Cerdd Dant: Cipolwg ar ddiwrnod da yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2025
'Flashmob Cerdd Dant cyntaf erioed' yn rhoi teyrnged i'w hyfforddwr
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2025
Ryff geid i osod cerdd dant (i'r rhai di-glem)
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2021
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.