Cyhuddo dyn o geisio llofruddio ar ôl i fenyw ddioddef anafiadau difrifol

Cafodd Heddlu'r De eu galw i ddigwyddiad ar Aberdulais Crescent, Gabalfa, o gwmpas 04:00 ddydd Mercher 27 Mai
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 53 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio a bod â chyllell yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i ddigwyddiad ar Aberdulais Crescent, Gabalfa, o gwmpas 04:00 ddydd Mercher 27 Mai.
Dywedodd y llu wedi'r digwyddiad fod menyw 47 oed yn cael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol i'w hwyneb.
Fe wnaeth Stephen Reeves, o ardal Gabalfa, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio a bod â chyllell yn ei feddiant.
Mae'n parhau yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd yn ddiweddarach yn y mis.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.