Sbwriel ar safle o harddwch ym Mannau Brycheiniog 'ymysg y gwaethaf erioed'

Roedd bagiau o fwyd yn llawn cynrhon ymysg yr eitemau a gafodd eu darganfod ar safle ger Llyn y Fan Fawr
- Cyhoeddwyd
Roedd gwastraff dynol, bwyd yn llawn cynrhon (maggots) a phabell lawn ymhlith eitemau a gafodd eu gadael ar safle ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dros benwythnos gŵyl y banc.
Mae'r parc cenedlaethol yn dweud nad oes "unrhyw gyfiawnhad" dros ollwng gwastraff, a'u bod wedi sylwi ar "newid agwedd" ymhlith ymwelwyr â'u safleoedd o harddwch, gan arwain at gynnydd yn yr arferiad.
"Yn anffodus, dros yr haf, tydy o ddim wedi bod yn anarferol," meddai awdurdod y parc.
Maen nhw wedi disgrifio'r sbwriel ger Llyn y Fan Fawr yng ngorllewin y parc fel "un o'r gwaethaf" iddyn nhw ei weld erioed, a hynny'n dod ar ôl problemau tanau gwair yn yr ardal dros yr haf.
'Anodd deall y newid agwedd'
Mewn apêl ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd awdurdod y parc: "Nid gwersylla gwyllt ydy hyn, ond tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel.
"Treuliodd un o'n wardeiniaid benwythnos gŵyl y banc mewn ffordd oedd yn llai na delfrydol, yn clirio pabell oedd yn llawn cit gyda chadeiriau, barbeciw a dau fag o fwyd oedd yn llawn cynrhon, a hefyd ddarganfod baw dynol ar y safle."
"Pan fyddwch chi allan yn mwynhau natur, parchwch eich amgylchedd.
"Peidiwch â gadael unrhyw olion ac ewch â phopeth yn ôl adref gyda chi.
"Does dim unrhyw gyfiawnhad dros yr ymddygiad hwn."

Daeth warden o hyd i'r sbwriel wrth wneud dyletswyddau eraill o gwmpas y parc
Dywedodd pennaeth cyfathrebu Awdurdod y Parc, Bronwyn Lally ei bod hi'n ymddangos bod achosion o'r fath ar gynnydd, a'i bod hi'n anodd deall y rhesymau pam.
"Mae pobl yn dod i'r ardal i fwynhau'r golygfeydd hyfryd, ond maen nhw bellach yn gweld sbwriel yno sy'n difetha'r olygfa hyfryd," meddai.
Mae dylanwad y cyfryngau cymdeithasol wedi cael ei awgrymu yn y gorffennol fel rhan o'r rheswm am y cynnydd yn y problemau, ond dywedodd Bronwyn Lally: "Tra bod nifer o ddylanwadwyr yn ymweld â'r ardal, mae eu negeseuon nhw yn gyffredinol yn ymwneud ag ymweld yn gyfrifol", gan eu bod nhw "eisiau i'r lle fod yn neis hefyd".
"Felly mae'n anodd iawn deall o ble mae'r newid agwedd wedi dod," meddai.
Gan ddisgrifio problemau'r penwythnos fel bod ymysg y gwaethaf y maen nhw wedi ei weld, dywedodd hefyd bod hynny'n dod ar ôl gorfod delio â thanau gwyllt dros yr haf.
"Mae ein wardeiniaid wedi mynd o gefnogi diffoddwyr tân i fod, ar y penwythnos gwlyb cyntaf yn darganfod gwersylloedd wedi eu gadael.
"Mae hynny'n cael effaith ar fywyd gwyllt.
"Mae yna berygl o danau o hyd.
"Gall hefyd lygru'r dŵr - mae'n cael effaith ar bopeth, nid dim ond yr edrychiad."

Mae Steffan Edwards yn warden ym Mannau Brycheiniog
Dywedodd Steffan Edwards, warden ym Mannau Brycheiniog a fu'n clirio'r llanast, wrth BBC Cymru bod ganddyn nhw "ddigon o bethau eraill i'w gwneud yn y parc fel wardeiniaid".
Dywedodd eu bod yn dod o hyd i eitemau wedi eu gadael drwy'r amser, ond ei bod yn broblem gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae pobl yn darganfod llefydd neis i fynd, ac yn llythrennol yn mynd â phopeth gyda nhw y byddech chi'n eu cario fel arfer i faes gwersylla, ac yna jest yn eu gadael ar ôl."
Yn ôl rheolwr polisi ac eiriolaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Joe Wilkins, mae'r cynnydd mewn sbwriel hefyd yn dod ar adeg pan na all planhigion ac anifeiliaid wrthsefyll bygythiad arall, yn dilyn haf o wres llethol.
Dywedodd ei bod hi'n "bwysig i bobl gael mynediad i'r llefydd yma," ond ei bod hi'n "annheg" bod pobl yn "dinistrio'r profiad i eraill".

Stephen a Camille o Ganada
Bu Stephen a Camille o Ganada yn troedio Pen y Fan ddydd Gwener.
Dywedodd Camille: "Fe wnaethon ni gerdded y llwybr a 'nes i ddim gweld llawer o sbwriel... a phan wnaethon ni gychwyn 'nes i weld arwydd yn dweud 'ewch â'ch sbwriel gyda chi' a 'naeth hwnna helpu fi gan fod gen i tissues ac ati felly nes i roi nhw nôl yn fy mag.
"Dwi'n gwybod, yn ystod y gwyliau, bod nifer yn gadael sbwriel ond 'nes i ddim gweld dim heddiw, roedd yn braf iawn yma, yn hardd iawn."
Un arall oedd wrth ei bodd yn mynd am dro yn yr ardal oedd Isabelle.
Dywedodd: "Mae jyst yn drist dydi, bod tirlun mor hyfryd yn cael ei ddinistrio gan bobl yn gadael sbwriel, ond i fod yn deg roedd yn edrych yn iawn heddiw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin

- Cyhoeddwyd9 Mai 2025

- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
