Gwario £120m ar restrau aros mewn ffordd mwy 'cynaliadwy' - gweinidog iechyd

Mabon ap Gwynfor yw gweinidog iechyd newydd Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd £120m arall yn cael ei wario ar geisio lleihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond mewn ffordd mwy "cynaliadwy" na'r llywodraeth flaenorol, meddai'r gweinidog iechyd newydd.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor fod "y llywodraeth ddiwethaf wedi buddsoddi lot fawr o arian mewn atebion byr sydd ddim yn gynaliadwy".
Arweiniodd hyn at y rhestrau aros yn "mynd i fyny a lawr" yn gyson, meddai, cyn pwysleisio bod llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig "system a strwythur sy'n gynaliadwy i'r hirdymor".
Ym mis Mehefin y llynedd cyhoeddodd y cyn-ysgrifennydd iechyd Llafur, Jeremy Miles, y byddai £120m yn cael ei wario ar leihau rhestrau aros erbyn yr etholiad ddechrau fis yma.
'Llawer gormod o bobl ar y rhestrau'
Mae'r ffigyrau diweddaraf o ran perfformiad y GIG yn dangos bod y rhestrau aros am driniaeth wedi gostwng ym mis Mawrth, am y 10fed mis yn olynol.
Fe ostyngodd y nifer sy'n aros dwy flynedd neu fwy 42.7% o'i gymharu â mis Chwefror, i ychydig llai na 2,600.
Ond mae'r ffigyrau yn dal yn wael o'i gymharu â Lloegr, ble dim ond dwsinau o bobl sy'n gorfod aros dwy flynedd am driniaeth - gyda Chymru yn y miloedd o hyd.
Pwy yw gweinidogion cabinet newydd Llywodraeth Cymru?
- Cyhoeddwyd14 Mai
Sut mae gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
"Mae gweld niferoedd ar y rhestrau aros yn disgyn bob amser yn cael ei groesawu, ond mae llawer gormod o bobl ar y rhestrau aros o hyd," meddai Mr ap Gwynfor.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos mai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd sy'n wynebu'r heriau mwyaf.
Os na fydd y gweinidog iechyd yn "gweld gwella o fewn dwy flynedd, fyddwn ni'n gorfod" ystyried ymyrryd, meddai.
"Dyna be' mae pobl gogledd Cymru'n ei ddisgwyl... dwi'n un o gleifion gogledd Cymru, felly mae'n rhaid i ni weld gwella.
"Byddwn ni'n rhoi'r cymorth angenrheidiol er mwyn sicrhau bo' nhw'n cyrraedd y targedau."
Ychwanegodd bod modd creu'r 10 o ganolfannau llawdriniaethol yr oedd Plaid Cymru'n addo yn eu maniffesto "mewn amser byr iawn" ac "am bris rhesymol iawn".
"Mae posib defnyddio adnoddau ac adrannau o fewn y gwasanaeth iechyd sy'n cael eu tanddefnyddio.
"Mae 'na sawl ffordd o ddatblygu canolfan o'r fath a hybiau o'r fath."
Pwysleisiodd eu bod yn "gwybod ein bod yn gallu ei 'neud o fewn yr arian a'r gyllideb sydd ganddon ni".
Disgwyl cyhoeddiad yn fuan
Ym mis Ebrill eleni fe ddaeth i'r amlwg bod problem o ran cynnig swyddi i barafeddygon a nyrsys - gyda pharafeddygon newydd yn cael eu cynghori i fynd dramor i chwilio am swyddi.
Yn ystod ymgyrch etholiadol Plaid Cymru dywedodd Mr ap Gwynfor y byddai'n cynnal uwch-gynhadledd fyddai'n dod â gwahanol gyrff at ei gilydd er mwyn ceisio datrys y sefyllfa.
Dywedodd ei fod yn gobeithio gwneud cyhoeddiad yn y Senedd o fewn yr wythnosau nesaf "er mwyn rhoi sicrwydd" i rai o'r bobl hynny, a "sicrhau na fyddwn ni yn y sefyllfa yma eto".
Dadansoddiad
Byddai'n annheg disgwyl i'r gweinidog iechyd, wedi ychydig ddyddiau yn y swydd, i drafod holl heriau'r gwasanaeth iechyd - ond yn ei gyfweliad cyntaf fe gawsom ni arwyddion pwysig o'r hyn mae Mabon ap Gwynfor am ei gyflawni.
Mae e wedi etifeddu rhestrau aros sydd wedi gostwng yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf - ond mae'n cydnabod eu bod nhw yn dal yn rhy hir.
Datgelodd y byddai £120m yn cael ei wario i leihau rhestrau ymhellach (yr un swm a wariwyd ym mlwyddyn olaf yr hen lywodraeth), ond mewn ffordd fwy cynaliadwy, meddai, nag yn y gorffennol.
Ar nifer o ystadegau iechyd - yn cynnwys rhestrau aros a pherfformiad gwasanaethau brys a chanser - bwrdd iechyd y gogledd, Betsi Cadwaladr sy'n perfformio waethaf yng Nghymru.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, o ystyried fod nifer o aelodau o gabinet newydd y llywodraeth yn drigolion gogledd Cymru - fod hynny'n amlwg yn bryder.
Felly fe fydd gan y bwrdd hwnnw, meddai, ddwy flynedd "i wella" cyn y byddai'n barod i ystyried "pob opsiwn", yn cynnwys adrefnu'r bwrdd.
Awgrymodd hefyd y byddai mewn sefyllfa cyn hir i wneud datganiad i'r Senedd am ddyfodol y dwsinau o ddarpar barafeddygon a graddedigion iechyd eraill na lwyddodd i gael cynnig swyddi yn y gwasanaeth Iechyd yng Nghymru eleni.
Dyw'r gweinidog iechyd newydd ddim mewn sefyllfa eto lle gall hawlio clod am sefyllfa'r gwasanaeth iechyd, na chwaeth wynebu bai.
Ond buan iawn fydd hynny'n newid.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.