Carcharu dynes o Wynedd am ddwyn miloedd gan gwsmeriaid i dalu am wyliau

Mi wnaeth Kelly Kershaw ddwyn arian gan gwsmeriaid i dalu am ei gwyliau drud
- Cyhoeddwyd
Mae dynes oedd yn gweithio i gymdeithas adeiladu yng Nghaernarfon wedi cael ei charcharu ar ôl dwyn miloedd o bunnoedd gan gwsmeriaid a'i wario ar wyliau drud ac eitemau moethus.
Mae Kelly Kershaw, 54 oed o Nefyn, wedi cael ei charcharu am 16 mis ar ôl cymryd arian gan gwsmeriaid bregus yng nghangen cymdeithas adeiladu'r Nationwide.
Yn ôl swyddogion, roedd Kershaw wedi dwyn o leiaf £8,605 dros gyfnod o bron i flwyddyn a chyfaddef i bum achos o dwyll.
Mae Nationwide eisoes wedi ad-dalu pob cwsmer, ond bydd gwrandawiad arall ym mis Gorffennaf i benderfynu faint o'r arian y dylai Kershaw ei dalu'n ôl.

Mae Kelly Kershaw wedi dwyn o leiaf £8,605 dros gyfnod o bron i flwyddyn
Clywodd y llys fod Kelly Kershaw wedi ffugio llofnod dyn oedd ag anableddau dysgu, a chwsmeriaid oedrannus eraill.
Dywedodd brawd un o'r dioddefwyr mai "trosedd greulon" oedd hon, gan dargedu pobl fregus.
Dywedodd ei bargyfreithiwr, Amy Edwards, fod Kershaw wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl ers symud i Wynedd yn 2020 ac wedi datblygu obsesiwn gyda gwario.
"Mae hi'n teimlo cywilydd am yr hyn a wnaeth hi, a dydi hi ddim yn nabod y person y mae hi'n ei weld fel yr un a gyflawnodd y troseddau hyn."
Ond dywedodd y barnwr, Timothy Petts, wrthi nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond ei hanfon i'r carchar.

Fe gafodd Kelly Kershaw ddedfryd o 16 mis o garchar
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Kershaw wedi cael ei dal ar ôl i gydweithwyr weld negeseuon a lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol ohoni'n mynd ar nifer o wyliau drud, gan gynnwys saffari yn Affrica a theithiau i lefydd fel Paris a Dubai.
Roedd hi wedi dweud ei bod yn "mwynhau ac yn byw bywyd llawn, un antur ar y tro" yn sgïo ac yn hwylio.
Pan gafodd hi ei holi gan swyddogion o Nationwide, mi wnaeth Kershaw gyfaddef yr hyn roedd hi wedi ei wneud.
Dywedodd bod ei dioddefwyr yn "dargedau hawdd" ac "na fydden nhw'n gweld eisiau'r arian".

Mi wnaeth Kershaw gyfaddef i bum achos o dwyll tra'n gweithio yng Nghymdeithas adeiladu Nationwide
Roedd hi bod wedi ffugio llofnodion cwsmeriaid, gan gynnwys dyn 49 oed â nam dysgu a oedd yn cadw ei gerdyn banc yn y gangen am resymau yn ymwneud â'i ddiogelwch.
Mi wnaeth Kershaw ddwyn £6,300 gan ddyn 85 oed a oedd wedi cael strôc.
Ar un achlysur, gofynnodd y dyn i dynnu £200 o'i gyfrif yn y gangen ond cofnododd Kershaw ei fod wedi tynnu £500 a chadw'r gweddill iddi ei hun.
Roedd hi eisoes wedi cyfaddef pum cyfrif o dwyll rhwng mis Rhagfyr 2023 a diwedd Hydref 2024.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.