Galw am helpu adeiladwyr y dyfodol ar ôl i 100 ymgeisio am 6 lle hyfforddi

Mae Elin Williams yn dweud fod yr awydd gan bobl ifanc i ymuno yn amlwg
- Cyhoeddwyd
Mae angen cynllun hirdymor a mwy o gyllid i greu mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc yn y diwydiant adeiladwaith, yn ôl prif weithredwr cymdeithas dai.
Mae Iwan Trefor Jones, prif weithredwr cwmni Adra, o'r farn bod hi'n bwysig bod sefydliadau yn cyd-weithio i wneud yn siŵr fod yna "gyfleoedd i bobl ifanc".
Mae Adra wedi gweld cynnydd yn y galw am le ar eu cynllun academi, gydag un o'u rhaglenni diweddar yn denu 108 o ymgeiswyr ar gyfer dim ond chwe lle.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod gwaith "eisoes ar y gweill i hybu sgiliau adeiladu" gyda bwriad i gyfleoedd prentisiaethau newydd ddechrau yn ddiweddarach eleni.
Gweithlu sy'n 'mynd yn hŷn'
Mae dadansoddiad diweddar gan Ffederasiwn y Meistri Adeiladu yn dweud bod y sector adeiladu yn wynebu prinder llafur a bod angen 2,200 o weithwyr ychwanegol y flwyddyn er mwyn bodloni'r galw.
Mae Steven Walker, rheolwr adeiladu gyda Williams Homes, yn dweud ei bod hi'n "bwysig iawn" denu mwy o bobl ifanc.
"'Da ni'n gweld fod y gweithlu yn mynd yn hŷn, a 'da ni angen mwy o bobl ifanc yn dod drwadd.
"Mae 'na fwy na digon o le i gymryd pobl ifanc ar ein safleoedd gwaith.
"'Da ni'n neud siŵr ein bod ni'n paru nhw gyda rhywun efo digon o brofiad, ac yn edrych ar eu holau nhw.
"Be' 'da ni'n glywed ydi bod y profiad yn werthfawr iddyn nhw."

Mae gyrfaoedd gwerthfawr ar gael i bobl ifanc, meddai Steven Walker
Soniodd fod cynlluniau fel Academi Adra yn rhoi profiad ymarferol i bobl ifanc yn y gwaith.
"'Da ni wedi paratoi nhw i waith, dysgu sgiliau, dysgu codi yn y bora, gwneud diwrnod o waith cyfa', ac mae nhw'n barod i fynd allan i fyd gwaith.
"Dwi'n eu gweld yn tyfu mewn i fod yn oedolion... ti'n gweld y gwahaniaeth ynddyn nhw."
Yn ôl prif weithredwr cymdeithas dai Adra, Iwan Trefor Jones, mae hi'n hanfodol bod digon o gyfleoedd gwaith.
"Mae'n bwysig bod yna waith partneriaethol yn digwydd, mi yda ni'n gweithio gyda contractwyr lleol a cholegau i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd cywir.

Mae Iwan Trefor Jones o'r farn bod angen cynllun hirdymor "er mwyn cefnogi pobl ifanc"
Wrth siarad ar un o safleoedd datblygu Adra ym Mangor, ychwanegodd Mr Jones fod angen cyllid ychwanegol.
"Ond hefyd, be' sydd wir angen ydi cynllun hirdymor er mwyn cefnogi pobl ifanc, i sicrhau fod ganddyn nhw y sgiliau cywir i ddod i fyd gwaith.
"Mae angen sicrhau fod y math o gynlluniau, fel y rhai da ni yn eu datblygu... yn cael cefnogaeth ariannol hirdymor."
Cafodd cynllun Academi Adra ei sefydlu yn 2021 gyda'r nod o roi sgiliau a phrofiad i bobl ifanc yn y sector.
Mae 230 o bobl wedi eu cefnogi ers lansio'r cynllun, gyda'r cwrs diweddaraf yn denu 108 o ymgeiswyr ar gyfer chwe lle yn unig.
Dywedodd Elin Williams, sy'n goruchwylio gwaith yr academi: "Yn sicr mae 'na alw am y math yma o gyfle, mae'n rhywbeth mae pobl yn chwilio amdano fel cyfle ac ella yn rywbeth gwahanol i yrfa neu trywydd mwy academaidd.
"'Da ni wedi bod yn ffodus iawn i allu cael rhywfaint o gyllid grant allanol i ganiatáu inni gynnal rhai cyrsiau a thalu am gyfleoedd lleoliadau.
"'Da ni'n galw am fwy o gyllid ar gyfer cyfleoedd a phrosiectau fel Academi Adra... rydym am barhau i ddatblygu ac ehangu er mwyn ceisio ateb y galw cynyddol 'da ni'n ei weld."

Fe gafodd Cian Halliday, 26 waith fel saer coed, ar ôl cael ei wneud yn ddi-waith.
Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod cyfran y bobl ifanc yng Nghymru sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi codi'n sydyn.
Cynyddodd y ffigyrau i 17%, gan ddychwelyd i lefelau gafodd eu gweld ddiwethaf tua 2013, yn ôl Llywodraeth Cymru., dolen allanol
Collodd Cian Halliday, 26 o Lanrug, ei waith yn ystod y pandemig. Mae bellach yn gweithio fel saer coed, ac yn dweud fod y cyfnod blaenorol wedi bod yn anodd.
Dywedodd: "Nes i gael fy 'neud yn redundant, mi oedd bob dim yn struggle.
"Ges i fy rhoi ar gyrsia, ac mi oedd Academi Adra yn cynnig cyrsiau. 16 wythnos bron iawn wedyn o brofiad gwaith ac ar y diwedd naethon nhw benderfynu fy nghadw mlaen fel labrwr. Nes i flwyddyn o hynny.
"Wedyn naethon nhw gynnig prentisiaeth i fi wedyn ac mi nes i ddewis i fod yn saer coed."
Gofynnwyd i Cian os oedd yn teimlo fod digon o gyfleoedd i bobl ifanc pan gollodd ei waith.
Atebodd: "Dwi ddim yn meddwl fod 'na. Dim pan oni'n chwilio beth bynnag. O'n i'n ffendio hi'n anodd.
"O'n i'n ddigon hapus newid gyrfa. Neidio ar y cyfle a byth edrych nôl wedyn.
"Os ydi'r cyfle yn dod fyny, faswn i'm yn meddwl ddwywaith, mynd amdani."

Mae Daniella Williams yn dweud fod adeiladwaith yn "sector gwych" i weithio ynddo
Dechreuodd Daniella Williams, 35, yn y maes adeiladu ar ôl cyfnod o fod heb waith yn dilyn salwch.
Dywedodd bod cwrs gydag Academi Adra "wedi newid fy mywyd i a bywyd fy mhlant".
"Dwi wedi gallu arbed arian, dwi wedi prynu fy nghar fy hun ac mae wedi rhoi gymaint mwy o hyder i fi."
Mae Ms Williams yn angerddol am helpu i ysbrydoli merched ifanc i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiant.
"Dwi'n gweithio gydag ysgolion ... yn enwedig i gael merched i adeiladwaith.
"Nid dim ond brics ac adeiladu ydi o, mae yna bob math o bethau gwahanol."
Mae colegau lleol wedi gweld galw cynyddol tebyg.
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai eu bod wedi gweld "twf sylweddol yn nifer y bobl ifanc" sydd am wneud adeiladwaith, a chynnydd o 28% mewn cofrestriadau ers 2025/26.
'Datblygu system at y dyfodol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu system sgiliau Gymreig sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae gwaith eisoes ar y gweill i hybu sgiliau adeiladu gyda phrentisiaethau Lefel 2 mewn gosod brics, gwaith coed ar safleoedd, sgaffaldiau a chynnal a chadw adeiladau i ddechrau yn ddiweddarach eleni.
"Bydd adeiladu hefyd yn cael ei gynnwys mewn cymwysterau TAAU newydd o fis Medi 2027.
"Mae archwiliad sgiliau ar y gweill ar hyn o bryd i roi golwg glir, trawslywodraethol ar anghenion y gweithlu presennol a'r dyfodol ledled Cymru.
"Cynhelir uwchgynhadledd sgiliau'r dyfodol ym mis Hydref a fydd yn dod â chyflogwyr, addysgwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi ynghyd i helpu i lunio diwygiadau i hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yng Nghymru."