'Rhaid paratoi dy hun am rywbeth drwg yn digwydd os gen ti deulu yn Iran'

Layla a Hossein
Disgrifiad o’r llun,

Mae Layla a'i thad, Hossein, yn byw ym Mangor

GanLiam Evans
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Fangor sydd â theulu yn Iran wedi disgrifio'r rhyddhad o glywed gan ei pherthnasau ar ôl mis o fod heb gysylltiad oherwydd y rhyfel.

Gyda chysylltiad y we wedi ei thorri gan y gyfundrefn i'r mwyafrif o bobl gyffredin yn y wlad, doedd Layla heb glywed gan ei theulu ers dechrau'r brwydro.

Ond brynhawn Llun mi lwyddodd cefnder ei thad i gael digon o gysylltiad i alw ei deulu nol yng Nghymru mewn galwad ffôn a barodd dim mwy na munud.

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio, dywedodd Layla fod y sefyllfa yn parhau'n drychinebus er gwaetha'r cadoediad a ddaeth i rym yr wythnos hon.

"Dyma oedd y tro cyntaf ers mis inni glywed ganddyn nhw," meddai.

"Peth cyntaf dywedodd o oedd, 'paid â siarad am y politics', da ni'n fyw, da ni'n iawn a paid â phoeni amdanom ni gormod."

Y prif reswm rhybuddiodd cefnder ei thad i beidio â siarad am wleidyddiaeth oedd oherwydd pryder y teulu bod aelodau'r gyfundrefn yn gwrando ar sgyrsiau bobl gyffredin.

"Dio ddim yn ddiogel i wneud hynny," meddai Layla.

"Mae'n anodd i ddweud [sut mae pethau yno], ond yr un peth wnaeth o ddweud ar y ffon oedd bod iechyd meddwl y bobl yn ddrwg ofnadwy ac allai gredu bod hynny yn wir ar ôl y massacre ym mis Ionawr ac yna'r rhyfel, ma'n anodd i ddychmygu.

"Os oes teulu yn Iran, rhaid iti baratoi dy hun i glywed fod rhywbeth drwg 'di digwydd iddyn nhw, ac oedd hynny yn wir cyn y rhyfel hefyd.

"Ti'n gwybod bod nhw ddim yn ddiogel."

LaylaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Layla ar ei ffordd i brotest

Soniodd hefyd am rwystredigaeth ei theulu yma yng Nghymru o fethu a siarad â'u perthnasau nhw yn gyson i glywed mwy am y sefyllfa.

"Dwi'n hapus fod fy nheulu'n iawn ond mae fy nghalon yn torri dros bopeth dwi'n clywed a darllen... mae'n anodd cael y newyddion allan felly 'da ni ddim wir yn gwybod be sy'n digwydd a faint sydd wedi eu lladd a faint o'r wlad sydd wedi cael ei ddinistrio."

LaylaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Layla yn blentyn ifanc yn Iran

Yn gynharach yr wythnos hon mi gytunodd Yr Unol Daleithiau, Israel ac Iran ar gadoediad, er bod hynny ar brydiau'n parhau i ymddangos yn fregus ac yn ôl Layla does ganddi hi ffydd y bydd y cadoediad yn parhau am gyfnod estynedig.

"Doed gen i ddim lot o obaith ar hyn o bryd," meddai.

"Ym mis Ionawr dywedodd Trump fod help ar y ffordd... wedyn yr wythnos hon dywedodd y byddai'r boblogaeth i gyd yn cael eu lladd os nad ydy nhw yn agor y Straight of Hormuz."

Disgrifiad,

'Os oes teulu yn Iran, rhaid i ti baratoi dy hun fod rhywbeth drwg 'di digwydd iddyn nhw'

Mae Layla'n dweud yr oedd hi'n ofni'r gwaethaf o glywed yr hyn y dywedodd yr Arlywydd Trump.

"Roeddwn i'n mynd i gysgu a jest ddim yn gwybod be oeddwn i am weld ar fy ffôn wrth ddeffro, ma'n scary.

"Dwi ddim yn meddwl fod y byd i gyd wedi gwneud digon.

"Rhaid inni gofio fod 'na bobl yn byw yna, dy nhw ddim yn saff, mae rhyfel dal yn mynd, does dim newid i'r regime, mae'r regime yn parhau i wneud executions bob dydd ac mae hynny'n cynnwys plant.

"Da ni'n gallu gwneud mwy, da ni'n gallu jest cofio am y bobl yna.

"Dwi eisiau diwedd i'r rhyfel ond dwi'n poeni be sydd am ddigwydd nesaf."

Mae' na flynyddoedd ers i Layla weld a'i theulu yn Iran ond mae'n dweud ei bod yn "cadw gobaith" y daw'r dydd hwnnw eto'n fuan.

"Dwi jest yn cadw gobaith i weld llywodraeth seciwlar, ddemocrataidd iddyn nhw a gobeithio am ddyfodol da iddyn nhw, dwi jest isio gweld fy nheulu ac i bobl yn y wlad i gyd i fod yn saff... os dwi'n gallu mynd neu os ellith nhw ddod yma... sa hynny jest yn anhygoel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig