Dau frawd yn 'rasio yn erbyn ei gilydd' cyn gwrthdrawiad angheuol - llys

Rhys Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys Jenkins ei ladd yn y gwrthdrawiad fis Tachwedd 2024, ac fe gafodd ei fab naw oed ei anafu'n ddifrifol

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod dau frawd wedi bod "yn rasio yn erbyn ei gilydd" cyn i gerbyd un o'r ddau daro'n erbyn car a lladd dyn o ganolbarth Cymru.

Bu farw Rhys Jenkins, 41, tad i ddau o Ddeuddwr ym Mhowys, yn dilyn y gwrthdrawiad yn ardal Belan ger Y Trallwng am tua 18:00 ar 16 Tachwedd, 2024.

Yn y gwrthdrawiad cafodd Ioan, ei fab 9 oed, ei anafu'n ddifrifol a'i gludo gan hofrennydd i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.

Mae'r brodyr o Fanceinion, Umar Ben Yusaf, 35, ac Abubakr Ben Yusaf, 31, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.

Mae Abubakr Ben Yusaf hefyd yn gwadu achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.

Abubakr Ben Yusaf ac Umar Ben Yusaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abubakr Ben Yusaf a'i frawd Umar Ben Yusaf yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

Wrth agor yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, clywodd y rheithgor bod Rhys Jenkins yn gyrru ar yr A483 pan darodd ei Toyota Yaris yn erbyn BMW X3 Abubakr Ben Yusaf oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall ond wedi gwyro i'w lwybr.

Bu farw Mr Jenkins yn y fan a'r lle.

A hithau eisoes wedi nosi, dywedodd yr erlyniad bod sawl llygad dyst wedi adrodd bod y ddau frawd - oedd yn gyrru ceir gwahanol - yn mynd "rhy gyflym", yn "beryglus" ac yn "rasio'n erbyn ei gilydd".

Yn ôl David Mainstone, ar ran yr erlyniad, roedd o'n "wrthdrawiad oedd yn debyg o ddigwydd" a bod y ddau frawd yn gyrru'n "fygythiol" ac yn "annog ei gilydd".

Yn ôl un llygad-dyst, Ryan Jones oedd yn gyrru fan i gyfeiriad y gogledd ar y pryd, roedd BMW Abubakr Ben Yusaf wedi dod yn agos iawn ato wedyn yn ei basio ar gyflymder oedd "yn hynod o beryglus".

Fe ddilynodd Audi Umar Ben Yusaf a'i basio hefyd, gan amcangyfrif eu bod yn teithio ar gyflymder o "rhwng 80 a 100 mya".

"Allwch chi ddim gyrru ar ffasiwn gyflymder ar ffyrdd o'r fath", dywedodd Mr Jones wrth y llys.

Ond yn fuan wedi hynny, yn y pellter o'i flaen, dywedodd ei fod wedi gweld cefn y BMW yn colli rheolaeth gan wyro i'r llwybr lle roedd Mr Jenkins yn gyrru i'r cyfeiriad arall.

A483 BelanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng

Clywodd y rheithgor fod gan Mr Jenkins ddim amser o gwbl i ymateb, gan achosi difrod sylweddol i'r ddau gerbyd.

Gydag Abubakr Ben Yusuf yn teithio ar gyflymder o tua 63mya ar adeg y gwrthdrawiad, clywodd y rheithgor ei fod yn "debygol" fod Abubakr Ben Yusaf yn teithio'n gyflymach na hynny cyn ymgeisio i ail-sefydlu rheolaeth ar y car.

Cafodd lluniau cerbyd hefyd eu gweld yn y llys yn dangos y ddau frawd yn eu goddiweddyd ar y ffordd yn fuan cyn y gwrthdrawiad, gan achosi cryn fraw i yrrwr y cerbyd a wnaeth nodi "nad oedd posib fod y ddau yn teithio o fewn yr uchafswm cyflymder" ar y pryd.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig