Cefnogi'r egwyddor o ddysgu'r gwyddorau ar wahânwedi ei gyhoeddi 14:19 GMT+1
Mae Stephen Senior o Reform yn gofyn a fydd y prif weinidog yn gwrthdroi cynlluniau i gynnig gwyddoniaeth gyfun yn unig.
Mae ap Iorwerth yn ateb bod Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ym mis Medi 2025 y byddai TGAU ar wahân mewn Ffiseg, Cemeg a Bioleg yn parhau i fod ar gael.
Dywed Senior fod y prif weinidog yn gwybod bod adolygiad o hynny, a dywedodd ei fod yn siomedig na allai ymrwymo i wrthdroi'r adolygiad.
Dywedodd y prif weinidog ei fod yn cefnogi'r egwyddor o ddysgu'r gwyddorau ar wahân ond dywedodd ei bod yn bwysig cael adolygiad.
Ffynhonnell y llun, Getty Images














