Crynodeb

  • Rhun ap Iorwerth yn ateb cwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau ac eraill yn ei ail ymddangosiad yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog.

  • Mae ychydig dros fis wedi mynd heibio ers etholiad hanesyddol Senedd Cymru, a welodd Plaid Cymru yn ffurfio'r blaid fwyaf ac yn disodli Llafur o Lywodraeth Cymru.

  • Mae 96 o ASau yn y Senedd erbyn hyn, yn cynrychioli 16 etholaeth ledled Cymru.

  • Gallwch wylio'r sesiwn yn fyw drwy glicio ar chwarae ar frig y dudalen hon o 13:30.

  1. Trefniadau diogelu mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:34 GMT+1

    Dywed Rhun ap Iorwerth, "mae ein maniffesto yn glir, rydym wedi nodi ystod o ymrwymiadau i ysgogi mwy o gysondeb ac atebolrwydd er mwyn cryfhau trefniadau diogelu mewn ysgolion".

    Ceir gwybodaeth am bolisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â diogelu yma, dolen allanol.

  2. Trefniadau diogelu mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:31 GMT+1

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Andrew Griffin, AS Reform, Gwynedd Maldwyn, sy'n gofyn am effeithiolrwydd trefniadau diogelu mewn ysgolion.

  3. Beth sydd ar yr agenda heddiw?wedi ei gyhoeddi 13:26 GMT+1

    Mae'r pynciau ar yr agenda yn cynnwys a fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau i leihau'r swm y mae pobl yn ei dalu mewn treth, a digartrefedd pobl ifanc yng Nghaerdydd.

    Mae gan Kiera Marshall o Blaid Cymru gwestiwn ar y "sgandal cladin" yn adeilad Victoria Wharf y brifddinas, tra bod Francesca O'Brien o Reform yn gofyn am gyllid ar gyfer seilwaith ffyrdd yn ei hetholaeth, Gŵyr Abertawe.

  4. Beth ddigwyddodd yr wythnos diwethaf?wedi ei gyhoeddi 13:15 GMT+1

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Roedd yr wythnos diwethaf yn hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru pan roedd Rhun ap Iorwerth yn cynnig yr atebion am y tro cyntaf mewn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog.

    Ers blynyddoedd roedd ap Iorwerth wedi bod yn gofyn y cwestiynau ond mae'r rhod wedi troi, a daeth y prif weinidog newydd dan bwysau gan Dan Thomas o blaid Reform i egluro’n union beth oedd ei dargedau o ran amseroedd aros yn y GIG, a dywedodd y prif weinidog fod gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael â’r broblem.

    Pan ofynnwyd iddo beth fyddai’n ei wneud am broblemau oedd yn codi wedi cau Pont y Borth, ni wnaeth y prif weinidog ddiystyru croesfan newydd dros y Fenai, ond dywedodd hefyd ei fod yn chwilio am "ateb" i’r broblem, yn hytrach na strwythur.

    Dywedodd ap Iorwerth hefyd y byddai’n gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru pam bod pobl - gan gynnwys plant - yn mynd yn sâl o nofio yn Afon Tawe.

    Pont y Borth
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Pont y Borth wedi gorfod cau sawl tro yn ddiweddar er mwyn cynnal archwiliadau yn sgil amheuaeth bod cerbydau dros bwysau wedi ei chroesi

  5. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 GMT+1

    Croeso yn ôl i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - cyfle wythnosol yn y Senedd i'r gwrthbleidiau ac ASau meinciau cefn i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

    Mae ychydig dros fis ers buddugoliaeth Plaid Cymru yn etholiad y Senedd ar 7 Mai, gyda'r blaid yn ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf.

    Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

    Ar ôl cwpl o gwestiynau wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Dan Thomas o blaid Reform, Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.