Rheoli ecosystemau
Mae’n hanfodol ein bod yn rheoli ecosystemau mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae hyn yn golygu y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael cyfleoedd i’w mwynhau.
Rheoli ein cyflenwadau dŵr
Mae angen i ni gyfyngu cyflenwadau dŵr mewn rhannau o’r byd lle mae dŵr yn brin. Dwy ffordd o leihau ein galw am ddŵr yw atal datblygiad cyrsiau golff mawr ac annog tirlunio a garddio sychMath o dirlunio gerddi sy’n defnyddio planhigion fel cacti yn hytrach na phlanhigion trofannol, sych..

Rheoli ein diwydiant twristiaeth
Mae twristiaeth foesegol, twristiaeth gyfrifol a thwristiaeth gynaliadwy yn dair ffordd o leihau’r niwed sy’n cael ei achosi i’n hamgylchedd. Drwy aros yn lleol, gallwn leihau allyriadau carbon. Os yw ymwelydd yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol tra mae ar ei wyliau gallai teuluoedd a busnesau lleol elwa. Mae ymwelwyr moesol hefyd yn parchu’r amgylchedd, er enghraifft yn snorclo dros y riffiau cwrel i ddysgu am fywyd gwyllt a sut i warchod yr amgylchedd.
Mae ecodwristiaeth yn fath o dwristiaeth gynaliadwy sydd o fudd i bobl leol ac sy’n gwarchod yr amgylchedd. Nid yw ecodwristiaid yn cael llawer o effaith ar yr amgylchedd ac maen nhw’n cefnogi cadwraethArbed ac amddiffyn. cynefinoedd a bywyd gwyllt. Yn aml iawn, bydd ecodwristiaid yn ymweld â lleoliadau ledled y byd, yn gwirfoddoli mewn rhaglenni cadwraeth ac yn dysgu am ddiwylliant lleol.
Yng Ngwlad yr Iâ, mae llawer o bobl yn ymweld â’r ffiordau gogleddol i ddysgu am amgylchedd yr arctig, Saga Gwlad yr IâStori fytholegol am hanes Gwlâd yr Iâ. a morfilod. Mae hwn yn fath o ecodwristiaeth sydd o fudd i’r economi leol, sy’n gwarchod y diwylliant lleol ac sy’n cefnogi busnesau lleol.

Adfer ecosystemau
Dylem wneud popeth posibl i adfer difrod sydd wedi’i wneud i ecosystemau, a gwarchod y rhai sydd mewn perygl o niwed.
Yn y Borth, yng ngorllewin Cymru, mae ecosystem morfa heli Cors Fochno dan fygythiad oherwydd bod lefel y môr yn codi ac oherwydd datblygiadau sydd wedi’u gwneud gan ddyn. Mae’r gors hon yn darparu amddiffyniad naturiol rhag llifogydd gan ei bod yn storio ac yn hidlo dŵr. Yn 2014, cafodd £10 miliwn ei wario er mwyn amddiffyn traeth y Borth drwy adeiladu amddiffynfeydd môr newydd, gan gynnwys riff alltraeth. Bwriad y datblygiad hwn oedd amddiffyn morfa heli Cors Fochno, a hefyd y twyni tywod ymhellach draw ar hyd yr arfordir yn Ynys-las, sy’n ecosystem ar raddfa fach ac sy’n amddiffynfa naturiol hanfodol rhag y môr.
Rheoli morliniau trofannol
Mae annog gwledydd ac unigolion i reoli eu stociau pysgod yn well yn hanfodol i ecosystemau dŵr croyw a morol ledled y byd. Mewn rhai rhannau o’r byd, er enghraifft de-ddwyrain Asia, mae’r galw am bysgod yn uchel iawn.
Yn Bangladesh, mae coedwig fangrofCoed bytholwyrdd trofannol sy’n helpu i amddiffyn ardaloedd arfordirol. yn aml yn cael eu dinistrio i wneud lle i fathau eraill o amaethyddiaeth a thwristiaeth. Yn ychwanegol at hyn, mae coedwigoedd mangrof yn cael eu dinistrio er mwyn adeiladu ffermydd berdys yn y pyllau sy’n cael eu llenwi â dŵr. Yn wahanol i bysgota ar y môr, mae ffermydd berdys yn enghraifft o ffermio dwys lle mae berdys yn cael eu tyfu’n bwrpasol, yn hytrach na chael eu dal o’r môr. Mae rhai grwpiau o bobl yn dadlau bod hwn yn ddull mwy cynaliadwy o bysgota, ond mae eraill yn bryderus iawn oherwydd y difrod gwreiddiol i’r goedwig fangrof.
Ffordd well o wneud pysgota’n fwy cynaliadwy yw cyflwyno deddfau a deddfwriaeth newydd. Oherwydd y perygl y byddai rhai poblogaethau o bysgod yn cael eu colli am byth, cyflwynodd yr Undeb Ewropeaidd (UE) reoliadau i warchod stociau pysgod.
Mae’r rheoliadau hyn yn cynnwys:
- Gosod cwotaCyfyngiadau ar gynnyrch sy’n cyfyngu ar y defnydd ohono. Yn yr enghraifft hon, caiff cwota ei osod ar nifer y pysgod y gellir eu dal y diwrnod. pysgota i wledydd yr UE ac i gychod pysgota unigol, a oedd yn cyfyngu ar nifer y pysgod o bob rhywogaeth y gellid eu dal. Drwy ddal llai o bysgod, bydd mwy ar ôl i fagu, felly dylai’r boblogaeth ddod yn ôl i’w lefel flaenorol ymhen amser.
- Cyfyngiadau ar faint y tyllau yn y rhwydi. Drwy gynyddu maint y tyllau mewn rhwydi, dim ond pysgod sydd wedi cyrraedd eu llawn dwf fydd yn cael eu dal, a bydd pysgod ifanc yn gallu dianc a magu maes o law, gan alluogi’r boblogaeth i ddod yn ôl i’w lefel flaenorol.