Sut all unigolion a llywodraethau leihau effeithiau newid hinsawdd?
Wrth i’r galw am egni gynyddu, mae lefelau CO2 hefyd yn codi. Gwledydd incwm isel (LIC) sy’n bennaf gyfrifol am hyn oherwydd cynnydd yn y boblogaeth, twf economaidd a threfoli, ond mae gwledydd incwm uchel (HIC) fel UDA a Japan hefyd yn gyfrifol. O ganlyniad, mae llawer o wledydd yn ceisio mynd i’r afael â’u hansicrwydd egni eu hunain wrth i’r tanwydd ffosil traddodiadol ddod i ben.
Gall unigolion a llywodraethau leihau effeithiau newid hinsawdd mewn nifer o ffyrdd.
Buddsoddi mewn technolegau carbon isel, er enghraifft paneli solar ac egni’r llanw. Bydd hyn yn golygu bod llai o nwyon tŷ gwydr yn cael eu hallyrru i’r atmosffer, ac o ganlyniad bydd yn lleihau’r effaith tŷ gwydr.
(Cynnwys Saesneg)
Gwella safonau tanwydd mewn ceir neu brynu ceir trydan. Bydd llai o danwydd ffosil a lleihad mewn CO2 yn lleihau’r effaith tŷ gwydr.
Bydd gwella systemau cludiant cyhoeddus ac annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn lleihau nifer y ceir a’r cerbydau ar ein ffyrdd. Bydd hyn yn helpu i leihau tagfeydd a lleihau llygredd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
(Cynnwys Saesneg)
Beth all llywodraethau ei wneud i helpu?
Yng Nghymru, mae datblygiad newydd Sgwâr Canolog Caerdydd wedi’i gynllunio er mwyn annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae hyn yn cael ei wneud drwy gysylltu’r brif orsaf reilffordd â’r orsaf fysiau ynghyd â safle tacsis a llwybrau beicio newydd. Bydd yr ardal gyfan yn cael ei gwneud yn ardal i gerddwyr yn unig, fel bod pobl yn gallu mynd o gwmpas yn hawdd ac yn ddiogel, ac nad oes cymaint o angen car. Mae systemau cludiant cyhoeddus ledled y DU hefyd yn gwneud cludiant cyhoeddus yn ddull mwy hwylus na cheir o symud i ardaloedd trefol, drwyddynt ac o’u hamgylch. Mae enghraifft o hyn i’w gweld yng Nghaeredin, yr Alban â’r system dramiau newydd sy’n cysylltu’r maes awyr â chanol y ddinas.

Cynyddu effeithlonrwydd egni yn ein cartrefi
Mae’n bosibl defnyddio llawer o strategaethau a thechnolegau o amgylch ein cartrefi i gynyddu effeithlonrwydd egni. Mae’r graffigyn yn dangos rhai ffyrdd o wneud hyn. Mantais hyn yw y bydd allyriadau CO2 yn cael eu lleihau, sy’n dda i’r amgylchedd, a bydd costau rhedeg hefyd yn cael eu lleihau, sy’n dda i’r defnyddiwr. Gall cynlluniau’r llywodraeth berswadio llawer o bobl i newid i dechnolegau sy’n arbed egni, ond yn aml iawn yr unigolion eu hunain sy’n dewis dylunio ac addasu’r ffordd mae eu cartref yn cynhyrchu pŵer.
Prynu bwyd organig sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol
Mae cefnogi ffermwyr lleol yn ffordd arall o leihau ein heffaith ar yr amgylchedd gan fod hyn yn lleihau milltiroedd bwyd. Mae llawer o’n bwyd yn cael ei dyfu neu’n cael ei brynu o dramor, ac yn aml iawn mae’n gorfod teithio ar y rheilffyrdd, y ffyrdd, y môr neu drwy’r awyr cyn cyrraedd ein harchfarchnadoedd lleol – mae hyn yn arwain at gynnydd mewn allyriadau carbon. Yn ychwanegol at hyn, mae rhai o’r nwyddau rydym yn eu prynu o dramor, er enghraifft ffrwythau, yn defnyddio gwrteithiau a phlaleiddiaid sy’n achosi rhagor o ddifrod i’n hamgylchedd. Felly dylem brynu bwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol, â llai o filltiroedd bwyd, a phrynu bwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n organig heb ddefnyddio gwrtaith a phlaleiddiaid. Gall hysbysebion a negeseuon gan y llywodraeth helpu i berswadio rhai pobl i newid y ffordd maen nhw’n prynu, ond yn aml iawn ffordd o fyw yr unigolyn sy’n pennu ble mae nwyddau’n cael eu prynu.