
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
O'r 7fed tan y 18fed o Ragfyr 2009, fe fydd gweinidogion amgylchedd o 192 o wledydd yn dod ynghyd yn Copenhagen ar gyfer Uwch-gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. Eu nod fydd llunio cytundeb bydeang i daclo newid hinsawdd a fydd yn weithredol o 2012 ymlaen.
I nodi'r achlysur hanesyddol hon, mae BBC Cymru yn darlledu tymor arbennig o raglenni a fydd yn ymdrin ag ystod eang o bynciau amgylcheddol.
Yma ar BBC Radio Cymru, bydd modd i chi glywed amrywiaeth o gynnwys - o sgyrsiau difyr ar raglenni dyddiol i drafod a dadansoddi manwl ar ein cyfresi newyddion a materion cyfoes.
Mae Cymry ar gyfartaledd yn cyfrannu mwy at lefelau carbon diocsid yn yr awyr na phobl yn Lloegr, Tseina neu Rwsia
Mae drama arbennig hefyd wedi'i chomisynu sy'n rhoi blas ar sut allai bywyd ddatblygu yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2050.
Nod Tymor Gwyrdd BBC Cymru yw holi sut mae newidiadau yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni yng Nghymru ac i ysgogi trafodaeth ar gynaladwyedd a llu o gwestiynau eraill:
- Ydy pobl yn derbyn bod hinsawdd y byd yn newid?
- Pam fod y Cymry ar gyfartaledd yn cyfrannu mwy at lefelau carbon diocsid yn yr awyr na phobl yn Lloegr, Tseina neu Rwsia?
- Pwy sydd fwyaf cyfrifol a phwy sydd angen gweithredu i newid y sefyllfa - unigolion, busnesau, awdurdodau lleol, llywodraethau cenedlaethol neu sefydliadau rhyngwladol?
- Beth yw polisiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a ydyn nhw'n effeithiol?
- Beth mae cymunedau lleol yn ei wneud i fyw yn fwy cynaladwy?
- O fynd ati i leihau ein hôl-troed carbon, beth fydd yr effaith ar ein bywydau bob dydd?
Caiff Tymor Gwyrdd BBC Cymru ei lawnsio Ddydd Llun 23 Tachwedd ac fe fydd yn parhau tan ddiwedd Uwch-gynhadledd Copenhagen.
Yn ogystal â rhaglenni a chynnwys arlein ar BBC Radio Cymru, bydd sylw hefyd ar BBC One Wales, ar BBC Radio Wales ac ar wefannau Saesneg BBC Cymru.
Cofiwch hefyd y bydd storïau newyddion o Copenhagen yn ymddangos yn gyson ar wefan newyddion arlein y BBC.
- Cefnogaeth i gynlluniau arfordirol
- Y gobaith am gytundeb newid hinsawdd yn Copenhagen
- Uwchgynhadledd newid hinsawdd - adroddiad Iolo ap Dafydd
- Cymry yn ymuno gyda phrotest newid hinsawdd
- Annog gwirfoddolwyr i newid hinsawdd
- Newid hinsawdd: 'Angen gweithredu'
- Lle i boeni am newid hinsawdd
- Arbrawf carbon yng nghefn gwlad
- Rhaglen £4m ar newid hinsawdd
Cysylltiadau'r BBC
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.


