Main content

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Dewch i wybod popeth ynghylch Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Cysylltu

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.

BBC National Chorus of Wales step with ease through stirring choruses, blissful songs and weaving counterpoint
The Times

Mae’r Corws yn cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Wedi'i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r Corws yn gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau.

Mae uchafbwyntiau diweddar Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dehongliad pwerus o Symffoni'r Salmau gan Stravinsky dan arweiniad Ryan Bancroft, perfformiad atgofus o Requiem Almaenig Brahms yn Eglwys Gadeiriol drawiadol Tyddewi, a dehongliad lliwgar o Gloria gan Poulenc dan arweiniad Michal Nesterowicz, gyda’r soprano o fri, Sophie Bevan. Mae’r uchafbwyntiau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad BBC NCW i ddarparu profiadau corawl a cherddorfaol eithriadol gydag artistiaid o’r radd flaenaf.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a nhw a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Fe recordiwyd y darn hwn ar gyfer cryno ddisg a gafodd ei ryddhau yn ystod gwanwyn 2025. Mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr eraill hefyd, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y Corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar BBC Cymru Wales.

Pwy ydi pwy

  • Adrian Partington, Cyfarwyddwr Artistig

Mae Adrian yn cyfarwyddo’r Corws ers 1999. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda llawer o’r corau enwocaf yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys y Philharmonia, y BBC Symphony Chorus a’r London Bach Choir.

  • Christopher Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Mae Christopher yn cyfeilio i’r Corws ers 2000 ac yn 2014 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol. Mae’n canu’r piano cerddorfaol gyda’r Gerddorfa, Opera Cenedlaethol Cymru a cherddorfeydd eraill yn Ewrop. Recordiodd yn eang gyda’r BBC ac fel unawdydd i Chandos.

Sut i geisio

I wneud cais am glyweliad gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC anfonwch e-bost atom gyda’ch enw a’ch manylion cysylltu, a manylion y gerddoriaeth yr hoffech ei chanu mewn clyweliad.