Main content
Ioan Huws – Cyfrifoldeb cludo offerynnau drud
Mae Ioan Huws yn byw yn Rotterdam ers wyth mlynedd, lle mae’n gweithio fel rheolwr llwyfan gyda Cherddorfa Philharmonig Rotterdam. Trwy ei waith, mae wedi cael y cyfle i deithio’r byd ac i weithio ochr yn ochr â rhai o gerddorion gorau’r byd.
Roedd ei dad yn heddwas, a gan fod y teulu’n symud yn rheolaidd oherwydd y gwaith, treuliodd Ioan ei blentyndod mewn sawl rhan o Ogledd Cymru, gan gynnwys Yr Wyddgrug, Bae Colwyn a Chaernarfon.
Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth - yn astudio drama.
Cyn newid cyfeiriad yn ei yrfa, roedd Ioan yn athro Cymraeg a Drama yn Ysgol Alun, yn Yr Wyddgrug.





