Main content
Geraint Evans - Prif Weithredwr S4C - dyfodol S4C a darlledu Cymraeg
A hithau'n benblwydd S4C yn 44 oed, mae Beti George yn holi Geraint Evans - Prif Weithredwr S4C.
Fel mab i weinidog, fe symudodd y teulu sawl gwaith, a bu'n byw yn Three Crosses ger Abertawe, cyn symud i Drawsfynydd, Llanbrynmair ac yna i Bontarddulais.
Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac yna i astudio Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.
Bu'n gweithio fel newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, cyn ymuno hefo S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.
Mae'n Brif Weithredwr S4C ers mis Ionawr 2025.
Mae Beti a Geraint yn trafod ei fagwraeth, sefyllfa bresennol S4C, a gobeithion Geraint ar gyfer dyfodol y Sianel a darlledu yng Nghymru.





