Main content
Ysgol Dyffryn Conwy yn Canu'r Gloch
Ysgol Dyffryn Conwy sy'n canu'r gloch ac yn cyhoeddi i'r genedl fod y penwythnos wedi dechrau ar brynhawn dydd Gwener.
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Lisa Angharad yn cael cwmni Olivia, disgybl blwyddyn wyth sydd wedi bod ar y cwrs trochi. Mae hi bellach yn rhugl ac yn cael ei haddysg yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg, heblaw pan mae hi mewn gwers Ffrangeg neu Saesneg, wrth gwrs!
Hefyd yn ymuno am sgwrs mae Mr Williams, a fu unwaith yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy ond sydd bellach yn gweithio mor galed yno nes nad yw'n cael cyfle i fwyta bisgedi yn ystafell yr athrawon... Ffidil mas!





