
Cyfres 2, Pennod 2 : Hollie Crooke
Hollie Crooke sy'n sgwrsio gyda Bethan Richards am ei bywyd a'r frwydr gyson o ddioddef dirywiad yn ei chlyw. Bethan Richards interviews Hollie Crooke
Yn enedigol o Sir Y Fflint, mae Hollie bellach yn byw gyda'i gŵr Ben ym Mro Morgannwg. Un o'r ffyrdd mae Hollie yn ceisio ymlacio a lleddfu ei phryderon yw creu clust-dlysau arbennig sy'n addurno ei chymhorthion clywed.
Mae taith anabledd Hollie yn un anodd, gyda dirywiad ei chlyw wedi bod yn frwydr gyson. Er hyn mae ei gonestrwydd am y realiti o fod yn berson byddar, a phopeth a ddaw yn ei sgil, yn anhygoel. Fel dynes ifanc, sydd newydd briodi, sut mae hi yn ymdopi gyda phenderfyniadau anodd bywyd? Oes modd byw gyda holl sgil effeithiau ei hanabledd? Oes help allan yna iddi?
Fydd Hollie yn cyffwrdd eich calonnau ac yn ail ddiffinio ein gwybodaeth am fyddardod.
Rhagor o benodau
Podlediad
![]()
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!
