Pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg yn cael eu gwahardd rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol dros nos.
Fe fydd pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed yn cael eu gwahardd rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol dros nos, o dan gynlluniau sydd wedi'u datgelu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. Y bwriad yw na fydd apiau fel Instagram, TikTok a YouTube ar gael yn awtomatig i ddefnyddwyr ifanc rhwng hanner nos a chwech y bore. Ond fe fydd modd i ddefnyddwyr newid gosodiadau eu cyfrifon er mwyn osgoi'r gwaharddiad. Fe ddaw'r cynllun hen ychydig wythnosau ers i'r llywodraeth yn San Steffan gyhoeddi bydd pobol ifanc dan un ar bymtheg yn cael eu gwahardd rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn llwyr. Fe fues i'n trafod y gwaharddiad diweddara gyda'r Dr Nia Williams, sy'n seicolegydd ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor fu'n trafod...
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Post Prynhawn
![]()
Sut mae cysgu mewn gwres eithafol?
Hyd: 04:08








