Main content

Cerdd yr Wythnos - Carwyn Eckley (Dros yr Aber)

Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Gwell digio un na gwylltio ugeiniau’

Bob nos yn selog, ar lein mae’r hogiau

yn gwthio’u hyder a’u bygythiadau

i lorio un. Ac wrth alw’r enwau,

mi wn yn iawn yn fy nhu mewn innau

mor annheg ydy’n cegau. Ond wedyn,

gwell digio un na gwylltio ugeiniau.

Carwyn Eckley

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

26 eiliad