Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Megan Wynne Jones - y milfeddyg newydd

Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda Megan Wynne Jones sydd newydd raddio fel milfeddyg, bum mlynedd ers y sgwrs ddiwethaf ar Troi'r Tir. A chat with new vet, Megan Wynne Jones.

Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda Megan Wynne Jones o Gaerdydd sydd newydd raddio fel milfeddyg, bum mlynedd ers y sgwrs ddiwethaf ar Troi'r Tir. Cawn glywed lle mae hi yn ei gyrfa erbyn heddiw.

Hefyd, Lois Cernyw sy'n sgwrsio gydag Elen Williams o Langwnadl, sydd wedi ysgrifennu cyfrol newydd i blant, wedi'i ysbrydoli gan ei chi defaid Tyrbo, aeth ar goll am dair wythnos yn ystod haf 2026.

Sgwrs hefyd gyda rhai o fyfyrwyr Coleg Gelli Aur yn Nyffryn Tywi, Rhys Colnet ac Aled Evans, sy'n trafod eu hastudiaethau yn y coleg, yn ogystal â chlywed gan eu darlithydd, Sara Roberts.

Ac Awel Mai Hughes sydd â'r newyddion diweddaraf o ran y polisiau a'r grantiau amaethyddol.

Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Yfory07:00

Darllediadau

  • Yfory07:00
  • Yfory15:30