
Tua'r Gorwel
Portread ffraeth am obsesiwn casglwr celf sy'n gofyn y cwestiwn, beth yw ystyr perchnogaeth? A witty and honest portrayal of obsession - what does it mean to own anything?
Beth amser wedi i gasglwr celf fenthyg llun o'i gasgliad i amgueddfa, a heb yn wybod iddo, fe ailfeddianwyd y llun hwnnw gan yr artist ei hun. Cymerodd y llun er mwyn byw blwyddyn olaf ei bywyd yn ei gwmni 'nôl yn ei stiwdio.
Wedi marwolaeth yr artist o ganser, ac ar ôl iddo ddarganfod y gwirionedd am leoliad y llun, wynebodd y casglwr broblem. A fyddai modd iddo ailfeddiannu'r llun a pha mor bell fyddai'n fodlon mynd i sicrhau perchnogaeth ohono?
Mae Tua'r Gorwel yn bortread ffraeth a gonest am obsesiwn casglwr celf sy'n gofyn y cwestiwn, beth yw ystyr perchnogaeth?
Cast
Yr actor adnabyddus William Thomas sy'n chwarae rhan y casglwr (Pobol y Cwm, Under Salt Marsh, Lost Boys and Fairies) a'r gantores hynod, Eadyth sy'n chwarae rhan ysbryd y llun.
Ar y Radio
Darllediad
- Sul 25 Hyd 202616:00BBC Radio Cymru