Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Joseff Gnagbo

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo. Beti George interviews Joseff Gnagbo.

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo.

Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg.

Mae'n ymgyrchydd, athro iaith, ieithydd a cherddor.

Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae hefyd wedi ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid.

Cyn dod i Gymru, roedd yn newyddiadurwr ac yn athro ieithoedd yn Abidjan. Roedd eisoes yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg a Swahili.

Yn 2025, roedd Joseff yn y newyddion - fel y ffoadur cyntaf i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y Senedd.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul18:00

Darllediadau

  • Dydd Sul18:00
  • Iau 15 Hyd 202618:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad