Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Arwel Hughes

Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod. Beti George interviews Arwel Hughes, or Arwel MAD as he's known on Anglesey.

Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn.

Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth.

Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn cynnal disgos yn lleol, a bu'n gweithio yn ddiweddarach yr Octagon ym Mangor am 12eg mlynedd.

Fo hefyd sy’n gyfrifol am atgyfodi gŵyl Llychlynwyr Amlwch sy’n denu cannoedd o bobl o bob cwr o Brydain i gymryd rhan mewn ‘re-enactments’.

Mae wedi mabwysiadu dau o blant ac yn briod gyda Elaine. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys Elin Fflur – Ar Lan y Môr -y gân sy'n mynd ag Arwel yn syth yn ôl i'w blentyndod yn Amlwch.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul18:00

Darllediadau

  • Dydd Sul18:00
  • Iau 17 Medi 202618:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad