Main content
Sioe Talybont yn 130
Rhai o drefnwyr a chefnogwyr Sioe Talybont sy'n hel atgofion, wrth i'r sioe ddathlu'r 130. Organisers and supporters of Talybont Show celebrate 130 years of the show.
Wrth i Sioe Talybont ger Aberystwyth ddathlu 130 o flynyddoedd, Terwyn Davies sy'n clywed atgofion rhai o drefnwyr a chefnogwyr y sioe - Nia Williams, Dewi Jenkins a David Morgan.
Hefyd, mae Lois Cernyw yn ymweld â Llanberis i gyfarfod â Dylan Jones o siop nwyddau awyr agored Crib Goch - cwmni sydd wedi ennill gwobr nodedig yn y diwydiant, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Y newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth gyda Richard Davies, a Leah Meirion, Pennaeth Marchnata cwmni bwydydd a nwyddau amaethyddol Mole Valley Farmers sy'n adolygu'r wasg.
Darllediad diwethaf
Dydd Sul15:30
BBC Radio Cymru
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediadau
- Dydd Sul07:00BBC Radio Cymru
- Dydd Sul15:30BBC Radio Cymru
