Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Miriam Elin Sautin, comedi Cicio, adolygu Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau a chynhyrchiad Calon, Cwmni Theatr yr Urdd

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trin a thrafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Ậ thrafod efo pobol ifanc, un ai'r rhai sy'n creu, neu'r rhai sy'n mwynhau y byd creadigol mae Manon yn y rhaglen hon.

Ymhlith y gwesteion mae Gruff Huws, sydd yn un o sêr TikTok ac YouTube Cymraeg, ac wedi mynd ati ar ei liwt ei hun i greu cyfres gomedi newydd sbon.

Adolygiad o sioe gerdd 'Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau', a hynny gan aelodau hollbwysig o'r gynulleidfa ifanc.

Yn ogystal â hyn, mae Manon yn piciad draw i 'stafell ymarfer sioe gerdd arall hir-ddisgwyliedig gan Gwmni Theatr yr Urdd sef, 'Calon'.

Ac yna yn olaf, mae Miriam Elin Sautin yn trafod ei nofel newydd, 'La Salamandra', sydd newydd ei chyhoeddi.,

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Darllediadau

  • Yfory13:00
  • Dydd Llun18:00