Main content

Buddion aml-ieithrwydd
Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.
Yn ôl astudiaeth ddiweddar mae siarad sawl iaith yn cadw'r ymenydd yn ifanc. Mae Aled yn sgwrsio gyda Mared Gwyn o Frwsel, sy'n siarad nifer o ieithoedd i weld os ydi hi'n cytuno.
Iwan Owen ac Elain Gwilym sy'n y stiwdio i drafod prosiect digideiddio nodau clustiau defaid.
Sgwrs gyda Jonathan Davies, un arall sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn.
Ac mae Luned Elfyn yn rhoi hanes gwobr Charles Parker mae hi wedi derbyn am gynhyrchu dogfen radio.
Ar y Radio
Dydd Llun09:00
BBC Radio Cymru
Darllediad
- Dydd Llun09:00BBC Radio Cymru