Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Sengl CFFI Cymru, Moch Fedwen ac Uchel Siryf newydd Gwynedd

Cyfle i glywed rhai o leisiau sengl newydd Aelodau Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, 'Fel Hyn Da Ni Fod'. YFC Wales members talk about recording their new single, Fel Hyn Da Ni Fod.

Cyfle i glywed rhai o leisiau sengl newydd Aelodau Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, 'Fel Hyn Da Ni Fod' wrth iddyn nhw recordio'r gân yn Stiwdio Sain, Llandwrog, i nodi pen-blwydd y mudiad yn 90 mlwydd oed.

Rhys Griffiths o ardal Llanrwst sy'n sôn am gadw moch Cymreig pur yn awyr iach Dyffryn Conwy, gan werthu cig 'Moch Fedwen' yn syth i'w cwsmeriaid.

Sgwrs hefyd gyda Llinos Angharad Owen o Feddgelert sydd newydd ddechrau ar ei swydd fel Uchel Siryf Gwynedd, ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Rhagolygon y tywydd gyda Megan Williams, a chyfle i glywed sengl newydd CFFI Cymru yn ei chyfanrwydd.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul07:00

Darllediadau

  • Dydd Sul07:00
  • Dydd Sul15:30