Main content

Canolfan Bwyd Cymru yn 30, enwau lleoedd a CFFI Dyffryn Ogwen

John Davies sy'n hel atgofion am weithio yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn Horeb ger Llandysul. John Davies talks about working at the Wales Food Centre near Llandysul.

John Davies sy'n hel atgofion am weithio fel Cyfarwyddwr Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb ger Llandysul, wrth i'r ganolfan ddathlu pen-blwydd yn 30 eleni.

Hefyd, sylw i enwau lleoedd hanesyddol Cymru gyda'r Dr James January-McCann o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Clwb y Mis yw CFfI Dyffryn Ogwen yn ffederasiwn Eryri, a Chadeirydd y Clwb, Cian Rhys sy'n sôn am holl weithgareddau'r clwb.

Y newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth gyda Richard Davies, ac Aelod Iau y Flwyddyn ,CFfI Cymru, ac Elin Williams o Dregaron sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol.

30 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Ar y Radio

Heddiw15:30

Darllediadau

  • Heddiw07:00
  • Heddiw15:30