Cyngerdd Ar-lein i Ysgolion - Mytholeg a Chwedloniaeth
Dewch â hud mytholeg a chwedloniaeth i’ch ystafell ddosbarth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC!

Myths and Legends Online Schools’ Concert
Explore Myths and Legends through music with BBC National Orchestra of Wales.
Ymunwch â’r gyflwynwraig Rachel Leach a’r arweinydd Ellie Slorach am antur gerddorol gyffrous ar-lein wrth i’r gerddorfa symffoni lawn ddod ag arwyr dewr a chreaduriaid hudolus yn fyw.
Mae’r cyngerdd yn addas ar gyfer disgyblion ysgol gynradd, 7- 8 oed a hŷn, ac yn cyfuno cerddoriaeth gerddorfaol, straeon a gweithgareddau rhyngweithiol i ysbrydoli creadigrwydd, datblygu sgiliau gwrando a chyflwyno plant i fyd gwych cerddoriaeth glasurol.
Bydd adnoddau dysgu ategol ar gael ar-lein a digonedd o gyfleoedd i ganu gyda’r gerddorfa. Mae Mytholeg a Chwedloniaeth yn cynnig profiad hwyliog, hygyrch a diddorol i ysgolion a lleoliadau addysg arbennig, yn ogystal â disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref.
Bydd y cyngerdd yn cael ei gyflwyno yn Saesneg gydag is-deitlau Saesneg.



