Cyfansoddi: Cymru 2027
Yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, rydyn ni’n falch o hyrwyddo’r bobl sy’n siapio dyfodol cerddorol Cymru, a bydden ni wrth ein boddau petaech chi’n rhan o hynny.
Mae Cyfansoddi: Cymru yn rhaglen datblygu artistiaid gyffrous sydd wedi’i chynllunio ar gyfer cyfansoddwyr sy’n barod i gymryd y cam nesaf. Os cewch eich dewis, byddwch yn creu darn newydd o gerddoriaeth ac yn clywed cerddorfa broffesiynol lawn yn dod â’r darn yn fyw mewn gweithdy a pherfformiad yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd.
Ar hyd y daith, byddwch yn cael eich cefnogi gan artistiaid o’r radd flaenaf, gan gynnwys yr arweinydd Jac Van Steen a’r mentor cyfansoddwyr Paul Mealor. Byddwch yn cael gwybodaeth, arweiniad ac adborth gonest ac ymarferol gan y cerddorion sy’n perfformio eich gwaith - dyma gyfle amhrisiadwy i dyfu eich llais a mireinio eich crefft.
Mae hon yn fwy na rhaglen: mae’n gyfle i gysylltu, arbrofi a chael eich clywed. Rydyn ni yma i gefnogi a dathlu cyfansoddwyr o bob cwr o Gymru a’r rheini sydd wedi’u lleoli yma, gan helpu i ddod â cherddoriaeth newydd i gynulleidfaoedd newydd.
Cyfansoddi: Cymru, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Nimbus Lyrita Arts a Thŷ Cerdd, yw eich gwahoddiad i gamu ymlaen a rhannu eich cerddoriaeth.
Dyddiadau Pwysig
- Nifer o sesiynau mentora ar-lein drwy gydol y flwyddyn (i’w trefnu’n uniongyrchol)
- Dau ddiwrnod o fentora wyneb yn wyneb (wyneb yn wyneb, yng Nghaerdydd): Dydd Sul 27 Medi, dydd Iau 26 Tachwedd
- Diwrnodau Gweithdy a Chyngerdd (wyneb yn wyneb, yng Nghaerdydd): Dydd Mawrth 2 Mawrth, Dydd Mercher 3 Mawrth 2027.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mentoriaid
Paul Mealor
Shirley J. Thompson
Naomi Roberts (Llyfrgellydd BBC NOW)
Jac van Steen (Arweinydd)
Cerddorion BBC NOW
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, mae croeso i chi gysylltu â: rhonwen.jones@bbc.co.uk
Rownd Derfynol Cyfansoddi: Cymru 2027
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cyfansoddi: Cymru 2027, grŵp gwych o gyfansoddwyr sy’n siapio dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru.
Dros y misoedd nesaf, byddan nhw’n creu gwaith newydd ac yn cydweithio â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ochr yn ochr â’r arweinydd Jac Van Steen a’r cyfansoddwr Paul Mealor.
Allwn ni ddim aros i’w cerddoriaeth gyrraedd llwyfan Neuadd Hoddinott y BBC fis Mawrth 2027.
Delyth Field
Imi Oldham
Itgeltugs Ganzorig
Louis Villard
Nina Martin
Phi Yaan-Zek

