Islwyn Evans i dderbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Dywedodd Islwyn Evans fod derbyn y fedal yn "anrhydedd o'r mwyaf"
- Cyhoeddwyd
Y cyfarwyddwr corawl a'r athro llais Islwyn Evans yw enillydd Medal Goffa TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Yn enedigol o Henllan Amgoed ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, mae Islwyn Evans wedi arwain corau yng Nghymru ers dros 40 mlynedd.
Dan ei arweiniad mae Ysgol Gerdd Ceredigion wedi ennill teitl Côr Cymru deirgwaith ac wedi dod i'r brig yng nghystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Hanner canrif ers cyflwyno'r fedal am y tro cyntaf, Menter Iaith Sir Benfro sy'n ei rhoi eleni i gydnabod gwaith arbennig gyda phobl ifanc.
Pwy yw'r pedwar ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni?
- Cyhoeddwyd15 Mehefin
Siwan Davies yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Penri Williams i dderbyn Medal R. Alun yn Eisteddfod y Garreg Las
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dechreuodd ei yrfa fel cerddor tra'n fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - gan roi sylw arbennig i feithrin lleisiau pobl ifanc.
Wedi hynny, derbyniodd wobr Arweinydd Corau Ieuenctid y Ffederasiwn Brydeinig, ac Ysgoloriaeth Winston Churchill, a theithiodd i Sweden ac Hwngari i astudio'r grefft o hyfforddi corau plant.
Sefydlodd Gôr Ieuenctid Dyffryn Teifi yn 1985 cyn sefydlu Ysgol Gerdd Ceredigion yn 1993.
Gyda chenhedlaeth gyntaf yr Ysgol Gerdd yn awyddus i barhau i ganu, sefydlodd Gôr Cymysg Cywair yn 2003 - a aeth yn eu blaenau i ennill prif wobr Côr Cymru ddwywaith a theitl Côr y Byd yn Eisteddfod Llangollen yn 2005.
'Dileu rhwystrau ariannol' at addysg gerddorol
Dywedodd Islwyn, a gafodd wybod ei fod wedi ennill y fedal yn ystod ymarfer côr, nad oedd yn "gwybod beth i feddwl" ar y dechrau a'i fod wedi ei "ddal allan yn gyfan gwbl".
"Mae'n anrhydedd o'r mwyaf i'w gael a beth mae'r wobr yn ei olygu a'r rhai sydd wedi ei dderbyn ar hyd y blynyddoedd," meddai.
Wrth gyflwyno enwebiad Islwyn Evans am yr anrhydedd dywedodd Iwan Griffiths: "Mae'n amhosib mesur yr oriau ychwanegol y mae Islwyn yn eu rhoi heb ofyn am yr un geiniog.
"Mae'r hyn sy'n cael ei gynnig o fewn cymuned Ysgol Gerdd Ceredigion hefyd yn fwy na hyfforddiant lleisiol.
"Mae'n rhoi gofod diogel lle mae plant a phobl ifanc yn meithrin hyder, cael cyfle i fynegi eu hunain, a datblygu ymdeimlad o berthyn."
Bydd Islwyn Evans yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar lwyfan y Pafiliwn am 12:00 ddydd Mawrth, 4 Awst.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd13 awr yn ôl

